Dibenblwydd
Diwrnod pan nad ydy penblwydd ydy dibenblwydd (o'r Saesneg nbirthday). Bathwyd y term gan Lewis Carroll yn Through the Looking Glass.[1][2] Yn y ffilm animeiddiad Alice in Wonderland a wnaed yn 1951 gan Disney, cafwyd cân gyfan ar hyn, sef "The Unbirthday Song".[3]
Yn Through the Looking-Glass, mae Humpty Dumpty yn gwisgo crafát (y mae Alice ar y dechrau yn ei gamgymryd am wregys) y dywed iddo ei gael yn "anrheg heb ben-blwydd" gan y Brenin Gwyn a'r Frenhines Wen. Yna mae'n gofyn i Alice gyfrifo nifer y pen-blwyddi mewn blwyddyn.[4]
Mae'r tabl hwn yn dangos y nifer o benblwyddi a dibenblwyddi yn y flwyddyn:
Blynyddoedd naid | Blynyddoed eraill | |
---|---|---|
i berson y gafodd ei eni ar 29 Chwefror | 1 penblwydd 365 o dibenblwyddi |
heb penblwydd 365 o dibenblwyddi |
i berson y gafodd ei eni ar ddiwrnod arall | 1 penblwydd 365 o ddibenblwyddi |
1 penblwydd 364 o ddibenblwyddi |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lewis Carroll (1871). Through the Looking-Glass. Pennod VI, "Humpty Dumpty", ac a sillafwyd fel "un-birthday".
- ↑ Oxford English Dictionary cyfr. 10/1 (1926). t. U63 (t. 645 o'r fersiwn electronig).
- ↑ "A Very Merry Unbirthday to You". Adalwyd 20 Medi 2008.
- ↑ Carroll, Lewis (1872). Through the looking-glass, and what Alice found there. London: Macmillan and Co. tt. 121–123.