Lewis Carroll
Awdur Saesneg oedd Charles Lutwidge Dodgson a adnabyddir hefyd fel "Lewis Carroll" (27 Ionawr 1832 - 14 Ionawr 1898); roedd hefyd yn fathemategydd, yn flaenor yn yr eglwys ac yn ffotograffydd cynnar.[1][2] Ei lyfr enwocaf yw Alice's Adventures in Wonderland a'r dilyniant Through the Looking-Glass, sy'n cynnwys y cerddi enwog Jabberwocky a The Hunting of the Snark, ill dau'n enghreifftiau o'r genre 'nonsens llenyddol'. Mae ei ymdriniaeth o eiriau a chwarae gyda geiriau'n wahanol iawn i'w gyfoedion, fel mae ei ddefnydd o resymeg a ffantasi hefyd.[3]
Lewis Carroll | |
---|---|
Ffugenw | Lewis Carroll |
Ganwyd | Charles Lutwidge Dodgson 27 Ionawr 1832 Daresbury |
Bu farw | 14 Ionawr 1898 o niwmonia Guildford, The Chestnuts |
Man preswyl | Lloegr |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Lloegr |
Addysg | Meistr yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, rhesymegwr, ffotograffydd, bardd, diacon, awdur plant, dyddiadurwr, nofelydd, llenor, hunangofiannydd, athronydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud, Through the Looking-Glass, Jabberwocky, The Walrus and the Carpenter, Phantasmagoria, The Hunting of the Snark, Rhyme? and Reason?, A Tangled Tale, Sylvie and Bruno, The Nursery "Alice", What the Tortoise Said to Achilles, nyctography |
Arddull | llenyddiaeth plant, rhesymeg mathemateg, literary nonsense, barddoniaeth, Algebra llinol, social choice theory |
Tad | Charles Dodgson |
Mam | Frances Jane Lutwidge |
Perthnasau | Charles Dodgson |
llofnod | |
Magwraeth
golyguGanwyd Dodgson ym mhentref bychan Daresbury ger trefi Warrington a Runcorn yn Swydd Gaer, Lloegr,[4] y bachgen hynaf gyda dwy ferch yn hȳn nag ef. Cafodd ei rieni 8 plentyn ar ei ôl. Pan oedd yn un-ar-ddeg oed dyrchafwyd ei dad, a oedd yn rheithor a symudodd y teulu i reithordy yn Croft-on-Tees yng ngogledd Swydd Efrog. Bu'n gartref iddynt am y 25 mlynedd nesaf.
Llandudno
golyguArferai Alice Liddell, y ferch ifanc a ysbrydolodd gymeriad "Alice", dreulio ei gwyliau gyda'r teulu ym Mhenmorfa (West Shore), Llandudno. Ceir cofeb i "Alice" a Lewis Carroll ym Mhenmorfa ond anghywir yw'r honiad mai yno y cyfansoddodd ei lyfrau plant enwog - yn wir, ni cheir tystiolaeth iddo ymweld â'r teulu Liddel ar eu gwyliau yn y dref.[5]
Ceir sawl cyfieithiad o waith Dodgson, gan gynnwys Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud. Dyma esiampl:
- “Y ffordd acw,” ebe’r Gath gan chwifio’i phawen dde, “mae ’na Hetiwr yn byw; a’r ffordd acw,” gan chwifio’r llall, “mae ’na :Sgwarnog Fawrth yn byw. Ewch i ymweld â’r naill neu’r llall: mae’r ddau yn wallgof.”
- “Ond does arna’ i ddim eisiau mynd i blith pobol wallgof,” ebe Alys.
- “O, fedrwch chi ddim peidio,” meddai’r Gath, “rydyn ni i gyd yn wallgof yma. Rydw i’n wallgof. Rydych chi’n wallgof.”[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Elster, Charles Harrington (2006). The big book of beastly mispronunciations: the complete opinionated guide for the careful speaker. Houghton Mifflin Harcourt. tt. 158–159. ISBN 061842315X.
- ↑ Emerson, R. H. (1996). "The Unpronounceables: Difficult Literary Names 1500–1940". English Language Notes 34 (2): 63–74. ISSN 0013-8282. http://direct.bl.uk/bld/PlaceOrder.do?UIN=018450859&ETOC=RN&from=searchengine.
- ↑ "Lewis Carroll Societies". Lewiscarrollsociety.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 12 September 2013.
- ↑ "Google map of Daresbury, UK". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-26. Cyrchwyd 22 October 2011.
- ↑ Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail arg., 2002), tt. 106-108.
- ↑ www.lewiscarroll.org; New Edition of Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud; gwefan Lewis Carroll Society of North America; The official web site of the LCSNA; adalwyd Ionawr 2016