Die Fälscher

ffilm ddrama am drosedd gan Stefan Ruzowitzky a gyhoeddwyd yn 2007

Ffilm a gafodd ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Stefan Ruzowitzky yw Die Fälscher ("Y Ffugwyr"). Mae'n seiliedig ar gynllun cyfrinachol Operation Bernhardoedd gan y Natsiaid adeg yr Ail Ryfel Byd i foddi economi Prydain gyda nodau papur punt sterling ffug. Mae'r ffilm yn troi o gwmpas Salomon 'Sally' Sorowitsch, ffugiwr papurau arian dawnus iawn, sydd yn cael ei berswadio i gynorthwyo yn y cynllun yng Ngwersyll Sachsenhausen.

Die Fälscher
Cyfarwyddwr Stefan Ruzowitzky
Cynhyrchydd Josef Aichholzer
Nina Bohlmann
Babette Schröder
Ysgrifennwr Stefan Ruzowitzky (sgript)
Adolf Burger (llyfr)
Serennu Karl Markovics
August Diehl
Devid Striesow
Cerddoriaeth Marius Ruhland
Sinematograffeg Benedict Neuenfels
Golygydd Britta Nahler
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Aichholzer Film
Magnolia Filmproduktion
Studio Babelsberg
Dosbarthydd Filmladen (Awstria)
Universum Film (Yr Almaen)
Dyddiad rhyddhau 22 Mawrth 2007 (Yr Almaen)
23 Mawrth 2007 (Awstria)
Amser rhedeg 99 munud
Gwlad Awstria
Yr Almaen
Iaith Almaeneg
Cyllideb 4.2 million
Refeniw gros USD$18,814,713
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae'r ffilm yn seiliedig ar gofiant a ysgrifennodd Adolf Burger, Iddew Slofacaidd, a oedd yn osodwr teip a garcharwyd yn 1942 am greu tysysgrifau bedyddiedig i arbed Iddewon rhag cael eu halltudio, a throsglwyddwyd ef i Sachsenhausen i weithio ar y cynllun.[1] Roedd Ruzowitsky yn ymgynghori yn agos iawn gyda Burger adeg ysgrifennu'r script a'r cynhyrchu. Enillodd y ffilm Oscar am y ffilm iaith estron orau 2007.

Mae'r ffilm yn dechrau ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd gyda Almaenwr yn cyrraedd Monte Carlo. Mae'n arwyddo i mewn i westy moethus drudfawr gan dalu mewn arian, ac yn byw y bywyd bras, yn hap-chwarae yn llwyddiannus yn y casino ac yn tynnu sylw merch Ffrengig brydferth. Yn ddiweddarach mae hi'n darganfod ei fod yn un a or-oesodd gwersylloedd y Natsiaid.

Mae'r ffilm yn symud i Berlin yn 1936 lle mae'r dyn,Salomon Sorowitsch, yn ffugiwr dogfennau llwyddiannus yn cael ei ddal gan yr heddlu, a'i garcharu yng Ngwersyllt Mauthausen, ger Linz. Mewn ymdrech i amddiffyn ei hun mae'n defnyddio ei grefft o ffugio dogfennau i tynnu lluniau o'r gwarchodwyr a'u teuluoedd yn gyfnewid am fwy o fwyd.

Ffynonellau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. "The Counterfeiters Tell Their Tale". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-28. Cyrchwyd 2012-12-02.