Diffodd y Sêr

llyfr

Nofel ar gyfer plant a'r arddegau gan Haf Llewelyn yw Diffodd y Sêr. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2013. Yn 2014 enillodd y llyfr Wobr Tir na n-Og. Yn 2015 cafodd ei gynnwys yn y fanyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg.[1] Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[2]

Diffodd y Sêr
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurHaf Llewelyn
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi17 Mai 2013 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg i blant a phobol ifanc
Argaeleddmewn print
ISBN9781847716972
Tudalennau128 Edit this on Wikidata
CyfresCyfres yr Onnen

Disgrifiad byr

golygu

Nofel hanesyddol yw Diffodd y Sêr. Mae'r stori wedi'i seilio ar hanes Hedd Wyn ac mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r digwyddiadau; mae'n cychwyn yn Ionawr 1917 ac yn gorffen ym Medi 1918. Hanes Hedd Wyn yw'r is-deitl ar y clawr ac mae'n dechrau gydag Ellis (a elwir weithiau'n 'Elsyn') yn enlistio yn y fyddin ac ar y diwedd caiff ei ladd. Mae'r stori yn cael ei hadrodd o safbwynt Anni, un o chwiorydd Ellis. Ceir tri is-blot yn y nofel: stori Ifor, tad Lora, sy'n cael ei glwyfo, stori garu Hywel a Lora ac yn drydydd - stori garu Ellis a Jini Owen.

Ceir sawl cyfeiriad i fannau yn Ewrop gan gynnwys: Litherland (Lerpwl), Coedwig Mametz, y Somme, Passchendaele ac Ieper.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan CBAC adalwyd Medi 2015
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 3 Medi 2017