Dillad pêl-droed

Fel llawer o chwaraeon eraill, mae dillad pêl-droed (weithiau "cut pêl-droed") yn rhan hanfodol o'r gamp ac yn ddillad arbennig a wisgir gan y timau sy'n chwarae'r gêm. Mae rheolau pêl-droed yn nodi'r lleiafswm sy'n rhaid ei wisgo, ac yn gwahardd defnyddio unrhyw ddilledyn sy'n beryglus i naill ai'r chwaraewyr neu'r gwylwyr.[1] Gall cystadleuthau amrywiol fynnu rheolau eraill parthed y dillad hyn, er enghraifft maint y logos sydd ar y crysau. Gallant hefyd fynnu, pan fo dillad y ddau dim o'r un lliwiau (neu liwiau tebyg) mai'r tim cartref sy'n gwisgo'r lliwiau arferol.

Dillad Glasgow Rangers, 2013
Home shirt from 2012–present
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Esgidiau arbennig ar gyfer llain galed neu artiffisial

Yn gyffredinol, gwisga'r chwaraewyr rif ar gefn eu crysau er mwyn eu hadnabod yn hawdd. Yn wreiddiol, defnyddiwyd y rhifau 1 i 11, fwy neu lai wedi eu gosod yn ôl eu safle, ond ar lefel uchel o chwarae, mae rhifau'r sgwad wedi cymryd drosodd h.y. rhif i'r chwaraewr unigol a gedwir drwy gydol y tymor. Yn ychwanegol at y rhif hwn, mae clybiau proffesiynol hefyd yn arddangos cyfenw neu lysenw'r chwaraewr uwchben y rhif.

Datblygiad golygu

Mae'r cut pêl-droed wedi esblygu cryn dipyn ers dechrau cynnar y gem, pan gwisgid crysau trwchus gwlân, clôs dwyn falau (knickerbocker), ac esgidiau marchogaeth ceffyl eitha cryf a thrwm. yn yr 20g, ysgafnhaodd yr esgidiau a gwnaed y crysau o ffeibr synthetig gyda'r rhif wedi'i argraffu arno yn hytrach na'i wnïo. Ac wrth i'r byd marchnata ddatblygu gwelwyd logos y noddwr hefyd yn ymddangos ar y crysau a chopiau'n cael eu gwerthu i'r ffans; yn gyfochrog â hyn, cynyddodd incwm y clybiau.

Y dillad golygu

Fel y dywedwyd, mae Rheolau'r gem yn nodi'r lleiafswm sy'n rhaid ei wisgo: Rheol 4 yw hon: "Offer y Chwaraewr". Nodir pum dilledyn: y crys, y siorts, sannau, esgidiau a'r crimogau (shin pads).[2] Caniateir i gôl-geidwaid i wisgo trowsus tracwisg yn hytrach na siorts.[3]

Nid yw'r Rheolau'n nodi pa fath o esgidiau ddylid eu gwisgo, er mai'r math gyda styds a ddefnyddir gan fwyaf.[4][5] Fodd bynnag nodir fod yn rhaid i'r crys gael llawes: naill ai'n hir neu'n fyr. Mae'n rhaid i'r gôl-geidwad wisgo crys a ellir yn hawdd ei adnabod fel gôl-geidwad. Gellir gwisgo trons thermal, ond mae'n rhaid iddynt fod o'r un lliw a'r siorts ei hun. Mae'n rhaid i'r crimogau gael eu gorchuddio'n llwyr gan y sannau ac wedi'u gwneud naill ai o rwber neu o blastig.[1] Yr unig beth arall a nodir am yr offer yw na ddylid gwisgo unrhyw beth a all fod yn beryglus.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Law 4 – The Players' Equipment". Laws of the Game 2008/2009 (PDF). FIFA. tt. 18–19. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-06-22. Cyrchwyd 1 Medi 2008.
  2. Geiriadur yr Academi; Gol. Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones; argraffwyd yn gyntaf yn 1995; Gwasg Prifysgol Cymru; tudalen S1271
  3. "Interpretation of the laws of the game and guidelines for referees: Law 4 – The Players' Equipment". Laws of the Game 2008/2009 (PDF)|format= requires |url= (help). FIFA. tt. 63–64. |access-date= requires |url= (help)
  4. "soccer player". Visual Dictionary Online. Merriam-Webster. Cyrchwyd 28 Ebrill 2009.
  5. Crisfield, Deborah (1999). The complete idiot's guide to soccer. The Complete Idiot's Guide to... Alpha Books. t. 47. ISBN 0-02-862725-3.