Bryngaer arfordirol yn Sir Benfro yw Dinas Mawr. Cyfeirnod AO: 887387. Fe'i lleolir ar bentir creigiog ar ystlys penmaen Pencaer tua 5 milltir i'r gorllewin o Abergwaun ar gwr pentref bychan Trefaser. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn.

Dinas Mawr
Mathcaer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0064°N 5.0782°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM888387 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE075 Edit this on Wikidata

Enw golygu

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw), sy'n esbonio pam nad ydy'r ansoddair 'Mawr' yn treiglo ar ôl yr enw 'Dinas'.

Disgrifiad golygu

Mae safle'r gaer hon mor gadarn ar dair ochr fel na fu'n rhaid wrth amddiffynwaith ond ar yr ochr sy'n wynebu'r tir. Ceir dau glawdd dros y gwddw cul o dir sy'n cysylltu'r pentir wrth y tir mawr. Torrir trwy'r cloddiau hyn gan ddwy fynedfa yn eu canol.[1] Y tu draw i'r cloddiau amddiffynnol mae llwybr yn dringo i'r brif gaer ar ben y pentir.

Gorwedd y gaer o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cyfeiriadau golygu

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 187.