Caer bentir

amddiffynfa wedi'i leoli uwchben clogwyn serth ar yr arfordir

Amddiffynfa wedi'i leoli uwchben clogwyn serth ar yr arfordir yw caer bentir; yn aml dim ond darn bach o dir sy'n ei gysylltu â'r tir mawr. Fel rheol, defnyddir topograffeg y tir (hy ffurf daearegol, ffisegol yr ardal er mwyn lleihau'r rhagfuriau oedd eu hangen. Gall eu dyddio fod yn anodd, ond mae'r rhan fwyaf i'w gweld yn dyddio o'r Oes Haearn. Fe'u ceir yn bennaf yn Iwerddon, Llydaw, Cymru Ynysoedd Erch, Ynys Manaw, Dyfnaint, Ynysoedd y Sianel a Chernyw.[1]

Caer bentir
Cronk ny Merriu.jpg, Ynys Manaw
Mathbryngaer Edit this on Wikidata

Oherwydd newid hinsawdd, a chodi lefel y môr, mae llawer o'r caerau pentir wedi'u herydu. Yng Nghymru ac Iwerddon, archwiliwyd nifer o'r caerau sydd dan fygythiad gan brosiect Cherish, a gynhaliwyd gan nawdd Ewropeaidd yn y 2020au hwyr.

Ymhlith y caearu pentir hyn yng Nghymru mae: Dinas Dinlle, Caer Bentir Caerfai, Caer Bentir Porth y Rhaw, Caer Bentir y Penrhyn Du, a Chastell Bach, Cwmtudu. Mae'r arfordir o amgylch tyddewi'n cynnwys o leiaf 12 caer bentir.[2] Ystyrir Caerfai yn unigryw oherwydd ei leoliad: saif y gael fel ewin ar ben bys o bentir 500 metr o hyd: ceir pedwar clawdd, sy'n dilyn hollt naturiol wedi'i erydu a'i garfio i'r graig, cloddiau amddiffynol sy'n mynd nôl i Oes yr Haearn.[3]. Y gaer bentir agosaf i Gaerfai yw Porth y Rhaw, tua 2.3km i'r dwyrain ac i'w weld yn glir o Gaerfai.

Iwerddon

golygu

Mae'r rhan fwyaf o gaerau pentir Iwerddon yn dyddio o'r Oes Haearn, er y gallai rhai, fel Caer Dunbeg (Swydd Kerry) fod wedi tarddu o'r Oes Efydd. Mae eraill, fel Dalkey Island (Swydd Dulyn) yn cynnwys crochenwaith o Ddwyrain Môr y Canoldir a fewnforiwyd ac a ailfeddiannwyd a'u hailwampio yn y cyfnod canoloesol cynnar. Mae rhai, fel Doonmore (ger Dingle, Swydd Kerry) yn gysylltiedig â'r Oesoedd Canol. Mae An Dùn Beag (Saesneg: Dunbeg) yn cynnwys cwt carreg corbelaidd o'r canol oesoedd cynnar (a elwir yn clochán).

Ynys Manaw

golygu

Ar Ynys Manaw, saif y rhan fwyaf o gaerau pentir ar bentiroedd creigiog y de. Mae pedwar allan o fwy nag ugain wedi cael eu cloddio a gellir ymweld â nifer, yn enwedig yn Santon, gan ddefnyddio llwybr arfordirol Raad ny Foillan. Mae gan bob un ragfur ar eu hochr bregus tua'r tir, ac mae cloddiadau yn Cronk ny Merriu wedi dangos bod mynediad i'r gaer trwy giât hynod o gryf.

Pan gyrhaeddodd y Llychlynwyr Ynys Manaw yn yr 8g a'r 9g OC aethant ati i feddiannu'r caerau pentir hyn o'r Oes Haearn, gan ddileu'r hen gartrefi crwn yn aml a chodi tai petrual nodweddiadol; mae'r enghraifft wych yn Cronk ny Merriu wedi'i defnyddio fel sail i'r copi a godwyd yn amgueddfa Cartref Manannan yn Peel.

Dyfnaint a Chernyw

golygu

Ceir caerau pentir ar hyd arfordir Pennwydh (Penwith), gyda Chastell Maen, ger Land's End yn un o'r rhai hynaf, wedi'i ddyddio i tua 500 CC. Fe'u ceir hefyd mewn ardaloedd eraill, ee The Rumps ger Padstow a Dodman Point ar arfordir deheuol Cernyweg yn ogystal â Rame Head yn agos at Plymouth. Yn Nyfnaint, lleolir Ynys Burgh a Bolt Tail ar arfordir y de ac Embury Beacon a Hillsborough ar yr arfordir gogleddol. Mae'n bosibl bod y safle enwog yn Tintagel yn enghraifft brin o gaer bentir y parhaodd ei meddiannu hyd at y cyfnod ôl-Rufeinig ac oddi yno i gyfnodau diweddarach. [4]

Llydaw

golygu

Yn ystod rhyfel 56 CC disgrifiodd Caesar yn ei Commentarii de bello Gallico fod llwyth Celtaidd y Veneti yn ne Armorica (sef Tiriogaeth Celtaidd Gâl rhwng afonydd y Seine a'r Loir; Llydaw heddiw). Mae'n eu disgrifio fel pobl bwerus ar y môr a oedd a'u bod yn gysylltiedig â de ynysoedd Prydain - a fod ganddynt amddiffynfeydd ar y clogwyni a alwodd yn oppida. Eu prifddinas oedd Darioritum, ar Gwlff Mor Bihan, sydd bellach yn Gwened (Vannes).[5] Roedd gan y Veneti gysylltiadau masnach agos â de-orllewin Prydain. Pan ymosodwyd arnynt gan y Rhufeiniaid yn Llydaw, dywed Julius Caesar fod Cernyw wedi anfon cymorth milwrol atynt.

Ynysoedd y Sianel

golygu

Ceir rhai enghreifftiau o gaerau pentir ar Ynys Jersey, sy'n cynnwys Le Pinacle, Le Câtel de Rozel, a Le Câtel de Lecq. Lleolir y rhain ar bentiroedd gogledd a gogledd-ddwyrain yr Ynys, ac sy'n manteisio ar amddiffynfeydd naturiol cryf sy’n bodoli ar y rhannau hynny o’r Ynys. Ceir olion caer o'r Oes Haearn ar safle Castell Mont Orgueil i'r dwyrain o'r ynys yn ogystal â deunyddiau o'r Oes Neolithig a'r Oes Efydd.

Yr Alban

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Access to Monuments". www.historic-cornwall.org.uk.[dolen farw]
  2. Prosiect Cherish.
  3. Gwefan Coflein; adalwyd 17 Ebrill 2024.
  4. "- English Heritage". www.english-heritage.org.uk.
  5. Julius Caesar, Commentarii de Bello Gallico 3:8

Dolenni allanol

golygu