Dinasyddiaeth

(Ailgyfeiriad o Dinesydd)

Aelodaeth o gymdeithas wleidyddol yw dinasyddiaeth, gyda'r hawl i gyfrannu yn y wleidyddiaeth honno. Dinas oedd y gymdeithas honno yn wreiddiol ond heddiw gwladwriaeth ydyw fel rheol. Gelwir aelod o gymdeithas felly yn ddinesydd. Heddiw, mae dinasyddiaeth gan amlaf yn cyfeirio at aelodaeth gyfreithiol o wladwriaeth, a'r hawliau a dyletswyddau a ddaw o hynny. Ceir hefyd ambell enghraifft o ddinasyddiaeth uwchgenedlaethol, megis dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd a dinasyddiaeth y Gymanwlad. Gan amlaf mae dinasyddiaeth person yn unfath â'i genedligrwydd.

Mae dinasyddiaeth hefyd yn golygu gweithio er lles y gymuned drwy wirfoddoli ac ymdrechu i wella bywyd yr holl ddinasyddion. Mae rhai ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn rhoi gwersi dinasyddiaeth, neu astudiaethau dinesig, sydd yn amrywiad bach ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am dinasyddiaeth
yn Wiciadur.