Dingane
Roedd Dingane kaSenzangakhona (ca. 1795 - 1840), a adnabyddir fel rheol fel Dingane, yn frenin y Swlŵiaid un Ne Affrica o 1828 hyd ei farwolaeth.
Dingane | |
---|---|
Ganwyd | 1795 KwaZulu-Natal |
Bu farw | 1840 Lebombo Mountains |
Dinasyddiaeth | Zulu Kingdom |
Galwedigaeth | brenin, teyrn |
Tad | Senzangakhona kaJama |
Roedd Dingane yn fab i frenin y Swlŵiaid, Senzangakhona kaJama. Olynwyd Senzangakhona gan hanner brawd Dingane, Shaka, a enillodd gyfres o fuddugoliaethau milwrol i ymestyn ffiniau'r deyrnas. Yn 1828, cynllwyniodd Dingane a'i frawd Mhlangana i lofruddio Shaka, a'i wneud ei hun yn frenin.
Erbyn hyn, roedd yn cyntaf o'r Boeriaid, y Voortrekkers, wedi cyrraedd teyrnas y Swlŵiaid. Gwnaeth Dingane gytundeb gyda'u harweinydd, Piet Retief, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl, a lladd Retief a thua hanner ei ddilynwyr. Fodd bynnag, gorchfygwyd Dingane gan y Voortrekkers dan ei harweinydd newydd, Andries Pretorius, ym Mrwydr Afon Bloed.
Parhaodd Dingane i ymladd yn erbyn y Voortrekker, gyda pheth llwyddiant. Yn 1840, gwnaeth y Boeriaid gytundeb a'r Swazi a dechrau ymgyrch yn erbyn Dingane. Enciliodd Dingane i'r mynyddoedd, lle llofruddiwyd ef gan y Nyawo. Olynwyd ef gan ei hanner brawd, Mpande. Mae ei fedd i'w weld yn mharc eliffantod Tembe.