Llysgenhadaeth
Cenhadaeth ddiplomyddol dan arweiniad llysgennad yw llysgenhadaeth.
Yn ôl y dychmygiad cyfreithiol a elwir alltiriogaethedd, mae eiddo real y llysgenhadaeth yn bodoli y tu allan i awdurdodaeth y wladwriaeth letyol. Gellir olrhain y cysyniad hwn yn ôl i De Jure Belli ac Pacis (1625) gan Hugo Grotius, ac yn Le Droit des Gens (1758) ysgrifennai Emerich de Vattel: "dyma yn unig ffordd drosiadol o ddisgrifio annibyniaeth [y llysgennad] ar awdurdodaeth y wlad a'i feddiant ar yr holl hawliau sydd eu hangen er llwyddiant y llysgenhadaeth". Ni sonir fawr am alltiriogaethedd gan ysgolheigion y gyfraith ryngwladol ers y 19g, ond fe'i defnyddir weithiau mewn disgwrs wleidyddol i atgyfnerthu'r syniad o freinryddid diplomyddol.[1]
Yr adeilad
golyguWeithiau, defnyddir y gair "siawnsri" i gyfeirio at adran wleidyddol neu swyddfeydd y llysgenhadaeth, ar wahân i breswylfa'r llysgennad.[2]
Mewn gwledydd ansefydlog, os oes bygythiad dichonol o gyrch gan derfysgwyr neu filwriaethwyr, adeiladir cadarnle o amgylch adeiladau'r llysgenhadaeth er mwyn eu diogelu. Gallai gynnwys trigfannau a chyfleusterau ar gyfer staff a'u teuluoedd yn ogystal â chyfadeilad y llysgenhadaeth ei hun. Er enghraifft, yn sgil meddiannu Irac gan luoedd yr Unol Daleithiau, codwyd cadarnle ddiplomyddol enfawr yn Baghdad, ar gost o $600 miliwn, a chanddi 8000 o weithwyr. Er bod y llywodraeth sydd yn adeiladu'r fath gadarnle yn ei ystyried yn rhagofal angenrheidiol, mae ymwahanu'r llysgenhadaeth o'r gymuned letyol yn anesmwytho'r berthynas rhwng y ddwy wladwriaeth.[3]
Yn hanesyddol, bu llysgenadaethau mewn gwledydd poeth yn symud i leoliad oerach yn yr haf. Yn Tsieina, symudai diplomyddion preswyl o Beijing (Pecin gynt) i demlau yn y bryniau i orllewin y ddinas, neu i drigfannau ar lan y môr, yn ystod yr haf. Arferai'r llysgenhadaeth Brydeinig yn Tsieina symud i gyrchfan arfordirol Beidaihe hyd at ganol yr 20g. Yn yr Ymerodraeth Otomanaidd, symudai'r mwyafrif o lysgenadaethau o Gaergystennin i hafodydd ar lannau'r Bosporus.[4]
Cymru
golyguCeir y cofnod cynharaf o'r gair llysgenhadaeth yn 1852.[5]
Er nad oes gan Gymru lysgenhadaeth ei hunan, fe geir Conswliaeth (neu is-genhadaeth o roi term arall) gan Weriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ G. R. Berridge, Lorna Lloyd ac Alan James, The Palgrave Macmillan Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2012), tt.145–6
- ↑ Lloyd a James Berridge, Dictionary of Diplomacy (2012), tt.50–51
- ↑ Lloyd a James Berridge, Dictionary of Diplomacy (2012), t.65
- ↑ Lloyd a James Berridge, Dictionary of Diplomacy (2012), t.359
- ↑ llysgenhadaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
- ↑ Gwefan Consulate General of Ireland, Cardiff