Disbaddiad cemegol
Ysbaddu trwy gyffuriau anaffrodisaidd
Disbaddiad gan ddefnyddio cyffuriau er mwyn lleihau libido a gweithgarwch rhywiol neu i reoli a thrin cancr ydy disbaddiad cemegol. Yn wahanol i disbaddiad llawfeddygol lle ceir gwared ar y ceilliau neu'r ofari drwy endoriad i'r corff,[1] nid yw disbaddiad cemegol yn cael gwared ar organau, nac ychwaith yn fodd o sterileiddio.[2]
Gellir dad-wneud effeithiau disbaddiad cemegol trwy beidio a pharhau gyda'r driniaeth, er weithiau gwelir effeithiau parhaol yng nghemeg y corff, megis lleihad yn nwysedd esgyrn gyda defnydd hir dymor o Depo Provera.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Candace Rondeaux, "Can Castration Be a Solution for Sex Offenders? Man Who Mutilated Himself in Jail Thinks So, but Debate on Its Effectiveness Continues in Va., Elsewhere", Washington Post, 5 Gorffennaf 2006
- ↑ Christopher Meisenkothen, "Chemical castration - breaking the cycle of paraphiliac recidivism", Social Justice, Gwanwyn, 1999.
- ↑ Patient Labeling.
Dolenni allanol
golygu- The chemical knife Archifwyd 2002-03-15 yn y Peiriant Wayback - Salon.com
- In Need of Therapy - Los Angeles Times