Canser

(Ailgyfeiriad o Cancr)

Mae canser neu canser yn grŵp o heintiau ble mae celloedd yn ymosodol (yn tyfu a rhannu yn rhy sydyn a chryf nes mynd yn rhemp drwy'r corff gan ymosod arno). Yn aml, gall chwalu drwy'r corff, drwy gyfrwng y lymff neu'r gwaed. Tyfu, ymosod a chwalu; dyma'r nodweddion sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y tiwmor. Gall rhai mathau o ganser greu tiwmor, ac eraill megis liwcemia yn peidio a gwneud hynny.

Canser
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathdisease of cellular proliferation, neoplasm, tiwmor, clefyd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebneoplasm diniwed Edit this on Wikidata
Label brodorolκαρκῐ́νος Edit this on Wikidata
Enw brodorolκαρκῐ́νος Edit this on Wikidata

Y gangen honno o feddygaeth sy'n astudio, gwneud diagnosis, trin ac atal canser ydyw oncoleg.

Canser mewn oedolion golygu

Mae'r ystadegau a restrir isod ar gyfer oedolion yn yr Unol Daleithiau:

Dynion Merched
mwyaf cyffredin (yn ôl nifer o achosion) mwyaf cyffredin (yn ôl marwolaeth) mwyaf cyffredin (yn ôl nifer o achosion) mwyaf cyffredin (yn ôl marwolaeth)
canser y brostad (33%) canser yr ysgyfaint (31%) canser y fron (32%) canser yr ysgyfaint (27%)
canser yr ysgyfaint (13%) canser y brostad (10%) canser yr ysgyfaint (12%) canser y fron (15%)
canser colorectaidd (10%) canser colorectaidd (10%) canser colorectaidd (11%) canser colorectaidd (10%)
canser y bledren (7%) canser y pancreas (5%) canser endometriaidd (6%) canser ofaraidd (6%)
melanoma croenol (5%) liwcemia (4%) lymffoma ddi-Hodgkin (4%) canser y pancreas (6%)

Canser mewn plant golygu

Peth gymharol brin ydyw canser mewn plant a glasoed: dim ond 150 achos ym mhob miliwn o blant. Dengys ystadegau'r 'National Cancer Institute' sydd wedi'i sefydlu yn UDA, fod yr achosion o ganser mewn plant wedi cynyddu bron i 20% rhwng 1975 a 1990, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn achosion o liwcemia. Ers 1990, mae'r niferoedd wedi lleihau ychydig.[1]

Mae'r plant sy'n byw ger atomfeydd niwclear yn fwy tebygol o gael canser.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Awduron: James G. Gurney, Malcolm A. Smith, Julie A. Ross (1999) Cancer Incidence and Survival among Children and Adolescents, United States SEER program 1975-1995, Cancer Statistics Branch, National Cancer Institute, a geir ar y wefan: SEER web site
  2. Reasonable Doubt: Children living near nuclear facilities face an increased risk of cancer.