Diwinyddiaeth Gatholig

(Ailgyfeiriad o Diwinyddiaeth Babyddol)

Diwinyddiaeth sydd yn seiliedig ar ddysgeidiaeth ac athrawiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw diwinyddiaeth Gatholig. Ei phrif ffynhonnell ydy'r Ysgrythur Lân, hynny yw testunau'r Beibl Cristnogol a gydnabyddir yn ganonaidd gan yr Eglwys Gatholig, ynghyd â'r hyn a elwir y traddodiad sanctaidd. Dywedir bod gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn rhinwedd yr olyniaeth apostolaidd a hawliai'r Pab, awdurdod arglwyddol (Lladin: magisterium) i ddehongli'r Beibl.

Cytunwyd ar brif ddysgeidiaeth yr Eglwys Fore mewn cynghorau eglwysig, megis Cyngor Cyntaf Nicaea (325), a chrynhoid credoau'r grefydd mewn cyffesion ffydd, yn enwedig Credo'r Apostolion a Chredo Nicaea. Yn yr Oesoedd Canol, datblygodd diwinyddiaeth Gatholig ar y cyd ag athroniaeth ysgolaeth ym mhrifysgolion Cristnogol Ewrop. Yn sgil Cyngor Trent (1545–63), datblygodd diwinyddiaeth amddiffynnol ymhlith Catholigion mewn ymateb i'r Diwygiad Protestannaidd. Ers yr 16g, cyhoeddir catecismau sydd yn amlinellu athrawiaeth grefyddol yr Eglwys Gatholig Rufeinig.[1]

Diwinyddiaeth systematig golygu

Diwinyddiaeth foesol a dysgeidiaeth gymdeithasol golygu

Diwinyddiaeth ysbrydol a chyfriniaeth golygu

Eglwyseg golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Marthaler, Berard L., gol. (1994). "Preface". Introducing the Catechism of the Catholic Church: Traditional Themes and Contemporary Issues. New York: Paulist Press. ISBN 978-0-8091-3495-3.