Diwrnod Cenedlaethol Norwy
Mae Diwrnod Cenedlaethol Norwy neu Ddiwrnod Annibyniaeth Norwy yn ŵyl gyhoeddus swyddogol a gynhelir ar 17 Mai bob blwyddyn. Cyfeiria'r Norwyaid at y diwrnod fel Syttende mai ("Yr un-deg-seithfed o Fai"), Nasjonaldagen ("Diwrnod Cenedlaethol"), neu weithiauGrunnlovsdagen ("Diwrnod y Cyfansoddiad").
Enghraifft o'r canlynol | diwrnod cenedlaethol, gwyl genedlaethol |
---|---|
Gwlad | Norwy |
Dechrau/Sefydlu | 1814 |
Gwladwriaeth | Norwy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Bydd y Norwyaid yn aml yn dathlu gyda gorymdeithiau mawr gyda phawb wedi gwisgo yn eu gwisg arbennig (y bunad). Mae pobl yn bwyta cŵn poeth, wafflau a hufen iâ ac mae'r plant yn chwarae gemau buarth.[1]
Cefndir hanesyddol
golyguArwyddwyd Cyfansoddiad Norwy yn Eidsvoll ar 17 Mai 1814. Dyma'r ail gyfansoddiad ysgrifenedig hynaf yn y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio.[2] Datganwyd yn y cyfansoddiad fod Norwy yn deyrnas annibynnol mewn ymgais i osgoi cael ei hildio i Sweden ar ôl i Ddenmarc - Norwy gael crasfa yn Rhyfeloedd Napoleon. Sefydlodd hyn Undeb rhwng Sweden a Norwy.
Dechreuodd dathliadau'r diwrnod hwn ar unwaith ymhlith myfyrwyr wedi hyn. Fodd bynnag, roedd Norwy bryd hynny mewn undeb personol â Sweden (yn dilyn Confensiwn Moss yn Awst 1814, a oedd yn rhannu breniniaethau fel cenhedloedd ar wahân) ac am rai blynyddoedd roedd Brenin Sweden a Norwy yn amharod i ganiatáu'r dathliadau. Am rai blynyddoedd yn ystod y 1820au, fe wnaeth y Brenin Karl Johan ei wahardd gan gredu bod dathliadau fel hyn yn fath o brotestio a hyd yn oed yn wrthryfel, yn erbyn yr undeb.[3] Newidiodd agwedd y brenin ar ôl Brwydr y Sgwâr yn 1829, digwyddiad a arweiniodd at y fath gynnwrf fel y bu'n rhaid i'r brenin ganiatáu seremonïau coffáu ar y diwrnod.
Fodd bynnag, dim ond yn 1833 y cafwyd anerchiadau cyhoeddus, a dechreuwyd dathlu'n swyddogol ger cofeb cyn weinidog y llywodraeth, sef yr arlunydd Christian Krohg, a dreuliodd lawer o'i fywyd gwleidyddol yn ffrwyno pŵer personol y frenhiniaeth.
Ar ôl 1864 daeth y diwrnod yn fwyfwy ran o'r sefydliad, a lansiwyd yr orymdaith gyntaf i blant yn Christiania - bechgyn yn unig ar y dechrau. Sefydlwyd y fenter hon gan Bjørnstjerne Bjørnson, er i Wergeland wneud yr orymdaith blant gyntaf, yn 1820, yn Eidsvoll. Dim ond yn 1899 y caniatawyd i ferched ymuno yn yr orymdaith. Yn 1905, diddymwyd yr undeb â Sweden a dewiswyd y Tywysog Carl o Ddenmarc i fod yn Frenin Norwy annibynnol, dan yr enw Haakon VII. Yn amlwg, daeth hyn i ben ag unrhyw bryder yn Sweden am weithgareddau'r Diwrnod Cenedlaethol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd Norwy dan feddiant y Natsïaid, gwaharddwyd y dathliadau'n llwyr, neu ddefnyddio lliwiau baner Norwy ar ddillad, hyd yn oed. Pan ryddhawyd Norwy ar 8 Mai 1945, daeth baner Norwy yn symbol amlwg o ryddid Norwy.
Gorymdeithiau plant
golyguAgwedd nodedig ar Ddiwrnod Cyfansoddiad Norwy yw ei natur cwbwl anfilwrol. Ledled Norwy, gorymdeithiau plant gyda digonedd o faneri yw elfennau canolog y dathliad. Mae pob ardal ysgol elfennol yn trefnu ei pharêd ei hun[4] gyda bandiau gorymdeithio rhwng ysgolion. Nadredda'r orymdaith drwy'r gymuned, gan aros yn aml yng nghartrefi henoed, cofebion rhyfel, ac ati. Mae'r orymdaith hiraf yn Oslo, lle ceir tua 100,000 o bobl yn teithio i ganol y ddinas i gymryd rhan yn y prif ddathliadau. Darlledir hwn ar y teledu bob blwyddyn, gyda sylwadau ar wisgoedd, baneri, a symbolau cenedlaethol eraill, ynghyd ag adroddiadau lleol o ddathliadau ledled y wlad. Mae gorymdaith enfawr Oslo'n cynnwys tua 100 o ysgolion, bandiau gorymdeithio, ac yn mynd heibio'r palas brenhinol lle mae'r teulu brenhinol yn cyfarch y bobl o'r prif falconi.[5]
Russ
golyguMae gan y dosbarth graddio o videregående (adran hynaf yr ysgol uwchradd uchaf, neu'r "chweched dosbarth") yr hyn a elwir yn russ, ei ddathliad ei hun ar 17 Mai, gyda'r disgyblion yn aros ar ddihun, drwy'r nos cyn mynd ati i fynd o amgylch y gymuned. Mae gan y russ hefyd eu gorymdeithiau eu hunain yn hwyrach yn y dydd, fel arfer tua 4 neu 5 pm. Yn yr orymdaith hon, byddant yn gorymdeithio drwy'r stryd gan gario arwyddion a baneri. Weithiau, byddant yn parodïo amrywiol agweddau lleol a gwleidyddol, er bod hyn wedi dod yn llai amlwg yn ddiweddar. Mae gorymdeithiau russ yn digwydd yn llai aml yn ddiweddar oherwydd yr heddlu llym.
-
Milwyr yn dathlu'r gwyliau cenedlaethol ym Meymaneh, Afghanistan.
-
Dathlu Diwrnod Cyfansoddiad Norwy yn Ballard, Seattle.
-
17 Mai yn Sydney
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hurray! It's May 17!".
- ↑ "The Constitution". Stortinget (yn Saesneg). 2021-01-19. Cyrchwyd 2024-05-17.
- ↑ Stein Erik Kirkebøen (16 May 2008). "Kampen om toget". Aftenposten (yn Norwyeg). Cyrchwyd 21 Jan 2013.
- ↑ Mae gan yr iaith Norwyeg nifer o eiriau gwahanol ar gyfer y term Saesneg "parade": "Parade", sy'n cyfeirio at orymdaith debyg i filwrol, a "tog" neu "opptog", sy'n cyfeirio at bobl yn cerdded mewn llwybr rhagosodol. Yn Bergen, gelwir yr orymdaith yn "prosesjon" (gorymdaith).
- ↑ Celebrating May 17th Official website of the Royal House of Norway (in English)