Denmarc–Norwy
Undeb brenhinol yn cynnwys Teyrnas Denmarc, Teyrnas Norwy (gan gynnwys Ynysoedd Ffaröe, Gwlad yr Iâ, a'r Ynys Las), Dugiaeth Schleswig, a Dugiaeth Holstein oedd Denmarc–Norwy (Daneg a Norwyeg: Danmark–Norge) a fodolai o'r 16g hyd at 1814. Roedd yn berchen hefyd ar nifer o drefedigaethau tramor: y Traeth Aur Danaidd, Ynysoedd Nicobar, Serampore, Tharangambadi, ac Ynysoedd Danaidd India'r Gorllewin.
![]() | |
Math | gwlad ar un adeg, personal union, real union ![]() |
---|---|
Prifddinas | Copenhagen, Oslo ![]() |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Daneg, Almaeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 55.67°N 12.57°E ![]() |
![]() | |
Roedd y cenhedloedd a'r grwpiau ethnig o dan reolaeth Denmarc–Norwy yn cynnwys Daniaid, Norwyaid, Almaenwyr, Ffaroaid, Islandwyr, Inuit, a Sami. Y dinasoedd mwyaf oedd Copenhagen, Christiania (Oslo bellach), Altona, Bergen, a Trondheim, a'r prif ieithoedd oedd Daneg, Almaeneg, Norwyeg, Islandeg, Ffaröeg, Sami, a'r Lasynyseg.