Diwrnod Shwmae Sumae

Digwyddiad sy’n cael ei ddathlu ledled Cymru a’r byd yw Diwrnod Shwmae, hefyd Diwrnod Sumae. Mae’n cael ei gynnal bob blwyddyn ar 15 Hydref er mwyn hybu’r Gymraeg a'i defnydd yn gymunedol.[1]

Diwrnod Shwmae Sumae
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Logo Diwrnod Shwmae Su’Mae

Hanes golygu

Cynhaliwyd y Diwrnod Shwmae cyntaf yn 2013, ac mae wedi’i gynnal bob blwyddyn ers hynny. Mae digwyddiadau Diwrnod Shwmae yn cael eu trefnu gan unigolion a mudiadau amrywiol ar lawr gwlad a'u cydlynu gan Dathlu'r Gymraeg.

Syniadaeth golygu

Amcan Diwrnod Shwmae yw annog siaradwyr Cymraeg i gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg drwy ddweud Shwmae, Sumae, neu ymadrodd lleol tebyg. Os bydd siaradwyr Cymraeg yn cychwyn pob sgwrs yn Gymraeg, gan ddechrau ar 15 Hydref ond parhau wedyn drwy’r flwyddyn, awgrymir y bydd mwy o sgyrsiau'n cael eu cynnal yn Gymraeg yn gyffredinol. Mae hefyd yn fodd o godi ymwybyddiaeth y di-Gymraeg am fodolaeth yr iaith a’u hannog i roi cynnig ar ddysgu'r iaith. Un o’r egwyddorion sylfaenol y tu ôl i’r diwrnod yw bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a bod gan bawb gyfraniad i'w wneud i'w dyfodol.

Cyfeiriadau golygu

  1. shwmae.cymru; adalwyd 1 Hydref 2018.