Y diwydiant sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu cerbydau modur a'u cydrannau (ac eithrio teiars, batrïau, a thanwydd)[1] yw'r diwydiant ceir neu'r diwydiant modur(ol).

Y rhes gydosod mewn ffatri Volkswagen yn Wolfsburg ym 1973.

Dyfeisiwyd y cerbyd modur yn Ewrop yn hwyr y 19g. Rhoddwyd hwb i'r diwydiant yn yr Unol Daleithiau ar ddechrau'r 20g pan poblogeiddiodd Henry Ford y rhes gydosod i alluogi masgynhyrchiad ceir. Yn sgil yr Ail Ryfel Byd daeth gwmnïau Gorllewin Ewrop, yn enwedig yr Almaen, a Japan yn gynhyrchwyr ac yn allforwyr mawr. Bellach mae nifer o'r hen gwmnïau yn is-gwmnïau i riant-gwmnïau mawr a chafodd argyfwng economaidd yr unfed ganrif ar hugain effaith drom ar y diwydiant, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) automotive industry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Awst 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.