Diwydiant plwm Cymru
Bu cloddio plwm yn ddiwydiant pwysig yn Sir y Fflint erbyn y 14g, ac yng Ngheredigion o ddechrau'r 17g. Anterth y diwydiant oedd y 1860au, pan gyflogwyd 6000 o bobl yng Nghymru. Gostyngodd allgynnyrch y diwydiant o 27,000 o dunelli ym 1870 i 11,000 o dunelli ym 1890. Caeodd y nifer fwyaf o'r gweithfeydd plwm erbyn 1914, gan adael pentrefi anghyfannedd a thomenni gwenwynig ar y tir, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain.
Un o'r prif safleoedd diwydiannol yn y gogledd oedd y Mwynglawdd yn Nyffryn Clywedog, lle cloddid plwm ers yr Oesoedd Canol. Mae Pyllau Plwm y Mwynglawdd, a ffynnodd yn y 18g a'r 19g, bellach yn barc gwledig.
Ymhlith yr hen weithfeydd plwm yng Nghymoedd y De oedd Melincryddan yn Nyffryn Castell-nedd, nes i'r teulu Coster o Fryste eu prynu ym 1732 a'u troi'n waith copr.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chris Evans, "Welsh Copper: What, When and Where?" yn New Perspectives on Welsh Industrial History, golygwyd gan Louise Miskell (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2020), t. 29.