Agor y brif ddewislen
Mwynglawdd y Gogarth

Mae hanes diwydiant copr Cymru yn mynd yn ôl i Oes yr Efydd. Copr yw'r prif fetel mewn efydd, gydag ychydig o dun wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng Nghwmystwyth, Mynydd Parys ar Ynys Môn ac yn arbennig ar Ben y Gogarth ger Llandudno, lle'r oedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, a chafodd mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu eu cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.

Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth. Roedd hefyd nifer o fwyngloddiau copr yn Eryri, er enghraifft Drws-y-Coed a Sygun, ger Beddgelert, ac yn Nyffryn Conwy. Roedd mwyngloddiau pur gynhyrchiol ym Meirionnydd hefyd, e.e. ger Llanfachreth. Un o'r mwyngloddiau yma oedd Glasdir, a weithiwyd rhwng 1852 a 1914, lle dyfeisiodd y perchennog Alexander Elmore ddull o dynnu copr o'r mwyn trwy ddefnyddio arnofiad olew.

Mynydd ParysGolygu

Prif erthygl: Mynydd Parys

Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn 1768, pan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yno. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd Abertawe i'w smeltio, neu weithiau i Swydd Gaerhirfryn. Erbyn diwedd y 18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref fwyaf yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr. O ganlyniad, datblygodd diwydiant llongau llwyddiannus yn yr harbwr. Erbyn 1800 roedd yno 8 siop gigydd, 13 siop deiliewr, 6 haearnwerthwr a 60 o dai tafarn![1]

Gwaith y Friars’ CoatGolygu

Cyfeiriodd Elizabeth Baker yn ei dyddiadur 3 Rhagfyr 1770; Dolgelley fel hyn:

...work [on?] the upper part is from the bottom of the level where the Friars Coat was got - but as I told you in my last [letter], the snow and the winds are such that the men cannot work there yet - so high on the mountain[2]

Roedd EB yn berchen ar fwynfeydd yn ardal Dolgellau. Tybed beth yw’r “friar’s coat”? Cyfeiriad at Frodyr Gwynion Abaty Cymer efallai?

Dywed yr hanesydd Steffan ab Owain mai enw ar waith copr, ac o bosib yr un lle a “Tyllau Mwyn” SH844205 ar y map. Dyma gyfeiriad ato oddi ar y we:

A remote location marked on old OS maps as Tyllau mwn (mine shafts). Thought to be the site of an unsuccessful trial referred to under the name of Friar's Coat in 1770. According to the Geological Survey, iron ore (bedded oolitic ironstone with magnetite) was raised here in about 1878, 1910 and 1920.[3]

Mae cyfeiriad Elizabeth Baker ato yn 1770 fel ymgais (aflwyddiannus) i godi copor yn mynd a hanes y safle yn ôl ymhellach felly?

Abertawe a LlanelliGolygu

Datblygodd nifer o weithfeydd toddi copr yn ardal Abertawe, Castell-nedd a Llanelli, yn defnyddio'r glo lleol i doddi mwynau o Gernyw a Mynydd Parys. Agorwyd y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yn 1717. Sefydlwyd nifer o'r cwmnïau gyda chyfalaf o Gernyw, yn cynnwys y mwyaf, Vivian & Sons. Am gyfnod cafodd Abertawe yr enw Copperopolis, ac roedd yn allforio copr i bob rhan o'r byd. O 1843 ymlaen, dechreuwyd mewnforio mwy o fwyn tramor i Abertawe. Daliodd y diwydiant i dyfu, gan gyrraedd ei anterth rhwng 1860 a 1875. Dirywiodd y diwydiant yma yn ne Cymru yn chwarter olaf y 19g, pan adeiladwyd gweithfeydd yn nes at y mwyngloddiau copr.

Dirywiad y diwydiant coprGolygu

Dirywiodd diwydiant copr Cymru tua chanol y 1850au, gyda'r copr yn rhai o'r cloddfeydd yn darfod a datblygiad mwyngloddiau mewn rhannau eraill o'r byd, yn arbennig yn Tsile ac Awstralia. Yn 1914 cloddiwyd tua 1,500 tunnell o gopr yng Nghymru (885 tunnell ohono ym Meirion, 172 yn Sir Gaernarfon). Caewyd Mynydd Parys ar ddechrau'r 20g, a chaewyd nifer o'r gweithfeydd llai tua'r un adeg. Ail-agorwyd cloddfeydd copr Pen y Gogarth a Sygun yn y blynyddoedd diwethaf fel atyniad i dwristiaid.

LlyfryddiaethGolygu

  • David E. Bick, The old copper mines of Snowdonia (Newent: Pound House, c1982) ISBN

0906885027

  • J. R. Harris, The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).
  • John Rowlands, Copper mountain (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, 1966)
  • Don Smith, The Great Orme copper mines (Llandudno: Creuddyn Publications, 1988)
  • Ben Bowen Thomas, Braslun o hanes economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)

Cysylltiad allanolGolygu