Diwylliant Gweriniaeth Dominica
Datblygodd diwylliant Gweriniaeth Dominica yn bennaf ar sail etifeddiaeth Sbaenaidd y wlad a chyda dylanwadau Affricanaidd sydd yn adlewyrchu hanes amlhiliol y wlad fel rhan o Gapteiniaeth Gyffredinol Santo Domingo yn Ymerodraeth Sbaen. Rhennir ynys Hispaniola rhwng Gweriniaeth Dominica a Haiti, a fu'n meddiannu cyn-wladfa Santo Domingo o 1822 nes rhyfel annibyniaeth ym 1844. Dylanwadwyd ar ddiwylliant Gweriniaeth Dominica i raddau gan ddiwylliant Haiti, er i nifer o Ddominiciaid adweithio'n erbyn yr ymddiwylliannu hwnnw mewn ymgais i fynegi diwylliant cenedlaethol unigryw.
Enghraifft o'r canlynol | y diwylliant mewn un lleoliad |
---|---|
Math | culture of the Earth |
Rhan o | Latin American culture |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Dominica |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cerddoriaeth a dawns
golyguMae Gweriniaeth Dominica yn enwog am ddwy genre o gerddoriaeth a dawns, merengue a bachata, sydd yn defnyddio rhythmau Affricanaidd ac elfennau o'r traddodiad Ewropeaidd. Gellir olrhain merengue a'r genre debyg méringue yn Haiti yn ôl i ganol y 19g, pryd cyfunwyd arddulliau rhythmig Gorllewin Affrica gyda dawnsiau gwerin i ddeuoedd o Sbaen a Ffrainc, a hefyd elfennau o gerddoriaeth frodorol y Taino. Dylanwadwyd ar merengue yn gryf gan gerddoriaeth Ciwba a Feneswela, a datblygodd sawl ffurf ranbarthol ar draws Gweriniaeth Dominica. Dan unbennaeth Rafael Trujillo (1930–61) mabwysiadwyd arddull merengue El Cibao yn gerddoriaeth genedlaethol y wlad.[1] Erbyn diwedd yr 20g roedd y ddawns wledig hon yn un o brif arddulliau y neuadd ddawns yn America Ladin. Cynhelir gwyliau merengue mawr yn ninasoedd Santo Domingo a Puerto Plata. Datblygodd bachata yn nechrau'r 20g yn bennaf o'r genres Ciwbaidd bolero a son, ac yn hanesyddol hon oedd cerddoriaeth y dosbarth gweithiol, a glywid mewn tafarnau a phuteindai ar gyrion Santo Domingo. Cynhyrchwyd offerynnau traddodiadol bachata o ddefnyddiau rhad, er enghraifft yr offeryn taro güira o duniau alwminiwm neu ddrymiau o grwyn geifr.[2] Cenir hefyd alawon gwerin o'r traddodiad Sbaenaidd. Ymhlith y cantorion a cherddorion enwocaf o Weriniaeth Dominica mae Juan Luis Guerra (g. 1957) a Fernando Villalona (g. 1955).
Llenyddiaeth
golyguYn ystod cyfnod y feddiannaeth gan Haiti, amlygwyd yr ymddeffroad cenedlaetholgar yn llên y Dominiciaid, yn enwedig ym marddoniaeth Félix Maria del Monte (1819–99). Cyfansoddwyd yr arwrgerdd genedlaethol Enriquillo: leyenda histórica dominicana (1879–82), sydd yn portreadu creulondeb y setlwyr Sbaenaidd tuag at y Taino, gan Manuel de Jesús Galván (1834–1910). Yn nechrau'r 20g ymunodd llenorion megis yr ysgrifwr Américo Lugo (1870–1952) a'r bardd Gastón Fernando Deligne (1861–1913) â'r mudiad modernismo a fu'n boblogaidd ar draws America Ladin. Daeth llenyddiaeth genedlaetholgar i'r amlwg unwaith eto yn ystod meddiannaeth Gweriniaeth Dominica gan yr Unol Daleithiau ym 1916–24. Un o brif themâu llên Gweriniaeth Dominica yn ail hanner yr 20g oedd y mudiad protest a materion cymdeithasol, er enghraifft yn straeon byrion y gwleidydd Juan Bosch (1909–2001). Mae awduron cyfoes yn ysgrifennu yn aml am fywydau beunyddiol y werin.
Celf
golyguYmhlith yr arlunwyr o nod o Weriniaeth Dominica mae Ramón Oviedo (1924–2015), José Rincón Mora (1939–2016), a Leopoldo Navarro (1862–1908).