Ymddiwylliannu
Proses o newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, a seicolegol o ganlyniad i ddiwylliannau'n cwrdd â'i gilydd yw ymddiwylliannu.[1] Gall effeithio ar ddiwylliant materol, traddodiadau'r werin, crefydd, iaith, bwyd a choginiaeth, dillad, y drefn wleidyddol a milwrol, addysg a gofal iechyd, gwerthoedd moesol, ac hunaniaeth.
Sawl ffurf sydd ar ymddiwylliannu, all fod yn heddychlon ac yn wirfoddol, o ganlyniad i anghydbwysedd pŵer, neu drwy rym a thrais. Gall un grŵp dominyddu'r grŵp arall tra'n caniatáu rhywfaint o'r diwylliant brodorol, neu ei gorchfygu ac hyd yn oed dinistrio diwylliant y grŵp arall yn gyfangwbl. Gall un diwylliant fabwysiadu'r diwylliant arall yn raddol a heb rym, a chymhathu ato yn wirfoddol. Ymgorffori yw'r enw ar fenthyca a newid rhydd rhwng diwylliannau sydd yn cysylltu â'i gilydd ond sydd yn meddu ar hunanbenderfyniad gwleidyddol a chymdeithasol.[2] Gall y ddau ddiwylliant gyfuno, er enghraifft mewn cymdeithas y tawddlestr, gan greu diwylliant newydd. Gall grwpiau hefyd byw ar y cyd a benthyg nodweddion diwylliannol oddi ar ei gilydd. Byddai'r union sefyllfa yn dibynnu ar amodau gwleidyddol ac economaidd, a'r cysylltiadau grym rhwng y gwahanol ddiwylliannau. Fel rheol, mae'r grŵp sydd yn ddarostyngedig sydd yn benthyg mwyaf oddi ar y grŵp cryfaf.[3]
Yn hanesyddol, byddai ymerodraethau yn lledu eu diwylliant drwy oresgyniadau a phenarglwyddiaeth. Mae nifer o bobl yn credu bod y fath ymddiwylliannu gorfodol yn parhau yn yr 21g, ar ffurf neo-wladychiaeth ac imperialaeth ddiwylliannol. Gellir ystyried integreiddiad ac addasu gan fewnfudwyr a ffoaduriaid wrth iddynt ymgynefino â chymdeithas eu gwledydd lletyol yn ffurf ar ymddiwylliannu. Gellir hefyd gweld mewnfudwyr eu hunain yn achosi'r bobl frodorol i ymddiwylliannu at ddiwylliant estron, er enghraifft effaith mewnfudwyr o Loegr ar werthoedd diwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru.[4]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "acculturation".
- ↑ (Saesneg) Acculturation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2018.
- ↑ Keith Cunningham, "Acculturation" yn Folklore: An Encyclopedia of Beliefs, Customs, Tales, Music, and Art, golygwyd gan Thomas A. Green (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2007), tt. 11–13.
- ↑ "Cenedl Newydd", BBC Cymru (23 Mawrth 2009). Adalwyd ar 24 Awst 2018.