Diwylliant y Meysydd Wrnau

Roedd Diwylliant y Meysydd Wrnau yn un o ddiwylliannau pwysicaf rhan olaf Oes yr Efydd yn Ewrop. Mae'r diwylliant yma yn dyddio o tua 1300 CC. hyd tua 800 CC.. Roedd y diwylliant yma yn ymestyn dros ran sylweddol o ganolbarth Ewrop, yn cynnwys rhan ddeheuol yr Almaen, yr Iseldiroedd, dwyrain a de Ffrainc, Catalonia, gogledd yr Eidal ac i'r dwyrain cyn belled a Slofacia.

Map wedi ei symleiddio o ddiwylliannau Ewrop yn rhan olaf Oes yr Efydd; Diwylliant y Meysydd Wrnau mewn coch.
Wrn o'r 9fed - 8fed ganrif CC o Wlad Groeg.

Nodwedd bennaf y diwylliant yma oedd ei arferion claddu, sef llosgi cyrff y meirwon ac yna rhoi'r lludw mewn wrnau a'u claddu. Ceir casgliadau o'r wrnau hyn wedi eu claddu, gan roi ei enw i'r diwylliant. Mae'r casgliadau mwyaf o'r wrnau hyn i'r dwyrain o Afon Rhein, er enghraifft Kelheim gyda mwy na 258, Zuchering gyda 316 o gladdedigaethau. Roedd manylion yr arferion claddu yn amrywio o ardal i ardal. Ceir hefyd gelfi efydd a chrochenwaith sy'n nodweddiadol o'r diwylliant yma. Roedd yr eitemau efydd yn dangos celfyddyd o lefel uchel iawn, yn enwedig y cleddyfau. Yn y rhan fwyaf o'r ardaloedd lle ceid y diwylliant yma, cododd y diwylliant Hallstatt yn ei le tua dechrau Oes yr Haearn.

Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu fod cysylltiad rhwng y diwylliant yma a'r Celtiaid. Er bod yr ardaloedd lle ceir y diwylliant yma yn cyfateb yn weddol i'r ardaloedd lle cofnodwyd y Celtiaid yn ddiweddarach, nid oes tystiolaeth bendant i gadarnhau hyn.

Llyfryddiaeth golygu

  • J. M. Coles/A. F. Harding, The Bronze Age in Europe (Llundain 1979).
  • G. Weber, Händler, Kieger, Bronzegießer (Kassel 1992).
  • Ute Seidel, Bronzezeit. Württembergisches Landesmuseum Stuttgart (Stuttgart 1995).
  • Konrad Jażdżewski, Urgeschichte Mitteleuropas (Wrocław 1984).
  • Association Abbaye de Daoulas (gol.), Avant les Celtes. L'Europe a l'age du Bronze (Daoulas 1988).

Cyfeiriadau golygu