Dolen Mach
Cyfres o gymoedd yn ne Gwynedd sy’n rhan o ardal hyfforddi tactegol awyrennau yw Dolen Machynlleth neu Ddolen Mach[1] (Saesneg: Machynlleth Loop neu Mach Loop). Mae'n rhan o "Ardal Hedfan Isel 7", a defnyddir yr ardal yn rheolaidd ar gyfer hyfforddiant hedfan lefel isel. Mae llif cylchol sy'n rhedeg yn groes i'r cloc er mwyn i griwiau allu ymarfer hedfan gyda'r cyfuchliniau trwy'r cymoedd heb orfod poeni am ddod wyneb yn wyneb ag awyrennau sy'n dod o'r cyfeiriad arall.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Lleoliad | Dolgellau, Machynlleth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7086°N 3.845°W |
Dyma un o'r ychydig leoedd yn unrhyw le yn y byd lle gall ffotograffwyr dynnu lluniau o awyrennau ymladd sy'n hedfan oddi tanynt. Daw llawer o selogion o bell gyda'r gobaith o weld yr awyrennau'n ymgymryd â'u symudiadau beiddgar. Fodd bynnag, mae anesmwythyd yn yr ardal ynglŷn â sŵn o'r awyrennau,[2] a diogelwch yr ymarferion.[3]
Mae'r maes parcio ar safle Llyn y Tri Grayenyn ym Mwlch Llyn Bach yn lleoliad poblogaidd ar gyfer gwylio'r awyrennau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mynd yn Igam Ogam ar hyd Ffordd yr Arfordir". Croeso Cymru.
- ↑ Gweler eitem 5e yn Cofnodion o gyfarfod 29 Awst 2018, Cyngor Cymuned Mawddwy.
- ↑ "Meirionnydd: 'Presenoldeb cynyddol' awyrennau’n hedfan yn isel", Golwg360, 26 Tachwedd 2015; adalwyd 29 Mai 2020