Lleolir Bwlch Llyn Bach yn ne Meirionnydd, Gwynedd. Mae'r bwlch mynydd adnabyddus hwn yn gorwedd rhwng cadwyn Cadair Idris i'r gorllewin a Mynydd Ceiswyn a'i gymdogion i'r dwyrain. Llyn y Tri Greyenyn yw'r 'llyn bach' yn yr enw.

Bwlch Llyn Bach
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.696347°N 3.86029°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH743125 Edit this on Wikidata
Map
Bwlch Llyn Bach o gyfeiriad Minffordd

Disgrifiad

golygu

Mae'r briffordd A487 yn croesi'r bwlch. Gan ei disgrifio o'r de i'r gogledd, mae'n dringo o bentref bychan Minffordd lle ceir cyffordd y B4405 sy'n arwain i lan Llyn Mwyngil ('Llyn Tal-y-llyn') a phentref Tal-y-llyn. Llifa afon Fawnog ar y chwith trwy goedwig Ystâd Idris. Mae'n dringo'n serth dan greigiau ysgithrog Craig y Llam i ben y bwlch (286 metr). Ar yr ochr arall mae'r ffordd yn disgyn yn araf trwy dirwedd mawnog, anial i lawr i gyfeiriad Dolgellau a heibio i dafarn enwog Y Llwynogod Croesion (Crossfoxes). Ers canrifoedd mae'r dafarn honno wedi croesawu teithwyr ac mae ymhlith yr uchaf a'r unigaf yng Nghymru. Mae llwybr i ben Cadair Idris yn dechrau ychydig yn uwch i fyny o'r dafarn. Ychydig ar ôl mynd heibio i'r Llwynogod Croesion mae'n ymuno â'r A470, y lôn sy'n croesi Bwlch Oerddrws gan gysylltu Dolgellau a Dinas Mawddwy.

Bu sawl llithriad cerrig ar ran ganol y ffordd rhwng Minffordd a phen y bwlch yn y gorffennol a byddai'n rhaid cau'r ffordd ar adegau oherwydd hynny. Mae'r bwlch yn gyfarwydd i deithwyr ar y gwasanaeth bws Traws-Cambria, sy'n cysylltu Caerdydd a Bangor.

Cyfeiriadau

golygu