Dominic Cooper
actor a aned yn 1978
Mae Dominic Cooper (ganed 2 Mehefin 1978) yn actor Seisnig. Mae e wedi gweithio ym myd teledu, ffilm, theatr a radio ac mewn cynyrchiadau fel Mamma Mia! The Movie a The History Boys.
Dominic Cooper | |
---|---|
Ganwyd | Dominic Edward Cooper 2 Mehefin 1978 Greenwich |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Partner | Amanda Seyfried, Ruth Negga, Gemma Chan |
Perthnasau | E.T. Heron |
Bywgraffiad
golyguMae Cooper yn dod o Greenwich, Llundain. Mae ei fam Julie, yn athrawes ysgol feithrin. Mynychodd Ysgol Thomas Tallis yn Kidbrooke, a hyfforddodd yn Academi Llundain o Actio a Cherddoriaeth (LAMDA). Graddiodd yn 2000.
Ffilm
golygu- Anazapta (2001), Clerc
- From Hell (2001), Cwnstabl #3
- The Final Curtain (2002), Offeiriad ifanc
- The Gentleman Thief (2002), PC Merrifield
- I'll Be There (2003), Cariad
- Boudica (2003), Anhysbys
- Breakfast on Pluto (2005), Milwr yn y disgo
- The History Boys (2006), Dakin
- Starter for 10 (2006), Spencer
- The Escapist (2008), Lacey
- Mamma Mia! The Movie (2008), Sky
- The Duchess (2008), Charles Grey, 2il Iarll Grey
- An Education (2009), Danny
- Brief Interviews with Hideous Men (2009),
Teledu
golygu- The Infinite Worlds of H.G. Wells: Davidson's Eyes (2001), Sidney Davidson
- Down to Earth (Cyfres deledu Brydeinig (2004), Danny Wood
- Sense and Sensibility (Cyfres deledu 2008 (2008), Willoughby
- God on Trial (2008), Moche
- Never Mind The Buzzcocks (09/10/2008), Ei hun
Radio
golygu- Charlotte's Web (2005), Wilbur
- The All-Colour Vegetarian Cookbook (2005), Damien
- The History Boys (2006), Dakin
Dolenni Allanol
golygu- Dominic Cooper Online - Gwefan ei gefnogwyr
- 'Cyfweliad gyda phapur newydd The Guardian, 1 Medi 2008
- eFilmCritic.com Cyfweliad Dan Lybarger gyda Dominic Cooper