Cymeriad ar raglenni teledu plant S4C yw Dona Direidi. Mae hi'n rapiwr sy'n gwisgo dillad pinc ac aur ac yn gefnither i Rapsgaliwn.. Mae hi'n ymddangos ar nifer o raglenni, sy'n cynnwys Do Re Mi Dona yn 2014, Da 'di Dona yn 2016 a Dathlu 'da Dona yn 2018. Ymddangosodd gyntaf yn Yr Raplyfr Coll ym mis Rhagfyr 2011. Cymerodd boblogrwydd Dona gan arwain at ei chyfres ei hun ym mis Ebrill 2013. Roedd hi ac yn dal i fod yn annwyl gan blant Cymru hyd heddiw.

Yn ffilm fer Y Raplyfr Coll, Dona sy'n dwyn Raplyfr Hud Rapsgaliwn er mwyn bod yn 'rapiwr gorau'r byd'.[1]

Mae'r cymeriad yn cael ei chwarae gan yr actores a chantores Elain Llwyd, a ymddangosodd fel plentyn yn y ffilm Y Mynydd Grug.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. [1] Archifwyd 2015-09-26 yn y Peiriant Wayback Y Raplyfr Coll, Sain
  2. Sêr ifanc y sgrin fach , BBC Cymru Fyw, 16 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2018.

Dolenni allanol

golygu