Dora Thewlis
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Dora Thewlis (15 Mai 1890 - 1976) a fu'n ymgyrchydd brwd dros sicrhau'r bleidlais i ferched.[1]
Dora Thewlis | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1890 Huddersfield |
Bu farw | 1976 Awstralia |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Fe'i ganed yn Honley ger Huddersfield, Swydd Efrog ar 15 Mai 1890, yn un o 7 plentyn James a Eliza Thewlis. Gwehydd oedd ei thad, ac yn ei harddegau, trodd Dora hefyd ei golygon tua'r melinau gwlân. Roedd y teulu yn sosialwyr rhonc.[2] Yn saith oed, gallai ddal pen rheswm am faterion gwleidyddol y cyfnod. Mewn pentref cyfagos, tuag ugain mlynedd cyn ei genedigaeth, sefydlwyd un o gwmniau cydweithredol cyntaf gwledydd Prydain.[3]
Swffragét
golyguYm mis Mawrth 1907, teithiodd i Lundain gyda charfan fawr o fenywod o Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn i gymryd rhan mewn protest arfaethedig yn Nhŷ'r Senedd yn dilyn methiant ail ddarlleniad Bill Willoughby Dickinson's ar 8 Mawrth. Roedd yn un ar bymtheg oed, ac roedd newydd ymuno gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (Women's Social and Political Union), cangen Huddersfield, lle roedd ei mam eisoes yn aelod. Gyda 75 o ferched eraill, fe'i harestiwyd am fod yn rhan o gynllun i dorri i mewn i Balas San Steffan. Yn y Llys, galwodd y barnwr hi "y Babi Swffragét" ac yn "llaw fach o'r felin" gan y wasg. Ymddangosodd ar dudalen flaen y Daily Mirror ddiwrnod wedi'r digwyddiad, gyda'r pennawd "Suffragettes storm the House."[2] Awgrymodd y barnwr y gallai ei rhieni ei chymryd er mwyn rhoi trefn arni. Eu hymateb oedd fod Dora Thewlis yn ddigon aeddfed i sefyll ar ei thraed ei hun, a'u bod yn ei chefnogi i'r carn. Carcharwyd hi yng ngharchar Holloway am ychydig dros pythefnos.
Ymfudodd i Awstralia cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac felly ni welodd erioed bleidlais menywod yn Lloegr, ac yn 1918 priododd Jack Dow. Cyrhaeddodd Melbourne, gyda'i chwaer Evelyn, ar 9 Hydref 1912; erbyn 1920 roedd ei rhieni ac aelodau eraill y teulu hefyd wedi ymfudo yno. Yn 1918 priododd John Thomas Dow a chawsant ddau o blant.
Bu farw yn Ascot Vale, Victoria, Awstralia yn 1976.[4]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Herbert, Ian (8 Mai 2006). "Dora Thewlis: The Lost Suffragette". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-07. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
- ↑ 2.0 2.1 "Dora Thewlis: The Lost Suffragette". The Independent (yn Saesneg). 2006-05-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-03-15. Cyrchwyd 2017-03-14.
- ↑ huddersfield.exposed; adalwyd 27 Ebrill 2019.
- ↑ McCaffrey, Julie (10 Mehefin 2006). "The Baby Suffragette". Daily Mirror.