Doreen Lewis

Cantores o Gymraes

Cantores canu gwlad a ffermwraig yw Doreen Lewis (ganwyd 4 Ebrill 1953).

Doreen Lewis
GanwydDoreen Davies Edit this on Wikidata
4 Ebrill 1953 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, ffermwr Edit this on Wikidata
PlantCaryl Lewis Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Doreen Davies yn Aberystwyth ac fe'i magwyd yn ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, Ceredigion.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Felinfach ac yna yn Ysgol Gyfun Aberaeron.

Canu golygu

Yn 1969, rhyddhaodd Doreen ei record gyntaf Y Storm ar label Cambrian, â hithau ond yn 16 oed. Bu hyn yn ddechrau ar yrfa ddisglair i'r ferch ifanc o Abermeurig.

Daeth yn enw a gwyneb cyfarwydd yn ystod y blynyddoedd wedyn gan ymddangos ar lwyfannau a sgriniau teledu led led Cymru. Aeth ei gyrfa o nerth i nerth gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, a chaneuon cofiadwy fel “Nans o’r Glyn”, “Rhowch i mi Ganu Gwlad”, “Cae’r Blode Menyn” a “Y Gwr Drwg”.

Hi yw'r unig ferch yn hanes canu pop Cymraeg i'w chyflwyno â disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.[1]

Mae Doreen wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thramor yn canu am yn agos i 40 mlynedd – ac mae’n dal i fwynhau’r cyfansoddi a’r perfformio, os yw amser yn caniatau iddi ynghanol bwrlwm adref ar y fferm yng Ngheredigion.

Bywyd personol golygu

Priododd ei gŵr John yn Eglwys Ystrad Aeron yn mis Mai 1972. Ar ôl priodi symudodd y pâr i fyw i Sgwâr Alban yn Aberaeron. Yno fe magwyd eu plant, Gwyndaf a Caryl.[2]

Disgyddiaeth golygu

Ha' Bach Mihangel golygu

  1. Cariad Di-Derfyn
  2. Os Daw'r Gwas Yn Feistr
  3. Y Gwely Plu
  4. Bob Yn Awr Ac Yn Y Man
  5. Mater Bach O 'Ngalon I
  6. Dy Oleuni Di
  7. Y Gwr Drwg
  8. Aderyn Mewn Llaw
  9. Rwy'n Siwr
  10. Ha' Bach Mihangel
  11. Un Storom Arall
  12. Cymru, Ti Yw Ngwynfyd
  13. Pan Edrychi Di I'm Llygaid I

Cyfeiriadau golygu

  1. Brenhines canu gwlad , Cambrian News, 9 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd ar 9 Rhagfyr 2019.
  2. Yr ifanc a ŵyr: Doreen Lewis a Caryl Lewis , BBC Cymru Fyw, 26 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 10 Rhagfyr 2018.

Dolenni allanol golygu