Caryl Lewis
Nofelydd Cymraeg yw Caryl Lewis (ganwyd 7 Gorffennaf 1978). Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda'i nofel Martha Jac a Sianco, a addaswyd i ffilm yn 2008. Yn 2023 enillodd Brif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn (Llenyddiaeth Cymru) am ei chyfrol Drift. Roedd eisioes wedi ennill Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn yn 2005 am ei chyfrol Martha, Jac a Sianco a Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 gydag Y Bwthyn.[1]
Caryl Lewis | |
---|---|
Caryl Lewis yn 2007 | |
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1978 Penbedw, Aberaeron |
Man preswyl | Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Dal Hi!, Martha, Jac a Sianco |
Mam | Doreen Lewis |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd yn Aberaeron cyn symud pan yn 12 oed yn ôl i’r fferm deuluol yn Nihewyd. Mae'n ferch i'r gantores canu gwlad Doreen Lewis.
Aeth i Ysgol Gynradd Aberaeron ac Ysgol Gyfun Aberaeron, cyn mynd yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Durham a Choleg Prifysgol Aberystwyth.
Gyrfa
golyguWedi'r coleg aeth i weithio yng Nghanolfan Ysgrifennu Cymru Tŷ Newydd ac i'r Academi Gymreig, cyn mentro i fyd cysylltiadau cyhoeddus lle bu'n gweithio fel sgriblwr.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Dal hi! yn 2003 - nofel i oedolion ifanc, ac yn 2004 cyhoeddodd Iawn boi? ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, ac aeth yn ei blaen i ennill Gwobr Tir na n-Og 2004.
Yn Nhachwedd 2004, cyhoeddodd Y Lolfa nofel nesaf Caryl sef Martha, Jac a Sianco. Dyma nofel i oedolion, sy'n sôn am ddau frawd a chwaer sy'n byw yng nghefn gwlad Ceredigion. Enillodd hon wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Mae'r llyfr hefyd wedi'i addasu i'r Saesneg gan Gwen Davies ac fe addaswyd ffilm deledu Gymraeg ohoni.
Mae Caryl bellach yn byw ar gyrion Aberystwyth.
Gwaith
golyguLlyfrau oedolion
golygu- Dal Hi! (Y Lolfa, 2003)
- Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004)
- Drws Arall i'r Coed, gyda Gwyneth Glyn Evans, Eurgain Haf Evans, Dyfrig Jones, a Manon Wyn (Sherman Cymru, 2005)
- Trosiadau / Translations: Gwaliadir / Walesland, gyda Nigel Wells (Gwasg Gomer, 2006)
- Y Rhwyd, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2007)
- Y Gemydd (Y Lolfa, 2007)
- Tinboeth, gyda Eigra Lewis Roberts, Meg Elis, Gwen Lasarus, Bethan Gwanas, Lleucu Roberts, Gwyneth Glyn, Siân Northey a Fflur Dafydd (Gwasg Gwynedd, 2007)
- Martha, Jac & Shanco, addasiad Saesneg o Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2007)
- Plu (Y Lolfa, 2008)
- Naw Mis (Y Lolfa, 2009)
- Y Bwthyn (Y Lolfa, 2016)
- Y Gwreiddyn (Y Lolfa, 2017)
Llyfrau plant
golygu- Iawn Boi? ;-), Cyfres Pen Dafad (Y Lolfa, 2003)
- Tric y Pic a Mics, Llyfrau Lloerig (Gwasg Gwynedd, 2004)
- Bili Boncyrs a'r Pants Hud, Cyfres y Teulu Boncyrs (Y Lolfa, 2004)
- Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan, Cyfres y Teulu Boncyrs (Y Lolfa, 2004)
- Drws Arall i'r Coed, gyda Gwyneth Glyn Evans, Eurgain Haf Evans, Dyfrig Jones, a Manon Wyn (Sgript Cymru, 2005)
- Sgwbidŵ Aur, Cyfres Pen Dafad (Y Lolfa, 2005)
- Bili Boncyrs: Seren y Rodeo, Cyfres y Teulu Boncyrs (Y Lolfa, 2005)
- Arkies, Dramâu'r Drain (Y Lolfa, 2006)
- Yr Ysbryd, Dramâu'r Drain (Y Lolfa, 2006)
- Ffit-Ffat yr Hwyaden, Cyfres Gwreichion (Gwasg Gomer, 2006)
- Bôrd, Cyfres Lleisiau (Canolfan Astudiaethau Addysg, 2006)
- Ffêc Tan, Rissole a Tships, Cyfres Whap! (Gwasg Gomer, 2006)
- Bili Boncyrs a'r Gêm Bêl-droed, Cyfres y Teulu Boncyrs (Y Lolfa, 2006)
- Bili Boncyrs a'r Planedau, Cyfres y Teulu Boncyrs (Y Lolfa, 2007)
- Bili Boncyrs ar y Fferm, Cyfres y Teulu Boncyrs (Y Lolfa, 2007)
- Bôrd Eto, Cyfres Lleisiau (Y Lolfa, 2007)
- Ar Fferm Sgubor Wen (Gwasg Gwynedd, 2013)
- Straeon Gorau'r Byd (Gwasg Carreg Gwalch, 2014)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ golwg.360.cymru; adalwyd 15 Gorffennaf 2023.