Dosbarthiadau 812 a 652 Rheilffordd y Caledonian
Roedd y Dosbarthiadau 812 a 652 yn locomotifau 0-6-0 cynlluniwyd gan John F. McIntosh ar gyfer Rheilffordd y Caledonian. Cawsant eu creu ym 1899. Roedd ganddynt yr un fath o foeler â’r Dosbarth 721 “Dunalastair” 4-4-0. Roedd ganddynt y llysenw "Jumbos" a roedd ganddynt gyflymder o 55 milltir yr awr.[1] Adeiladwyd 96 o locomotifau.
Math o gyfrwng | dosbarth o locomotifau |
---|---|
Math | locomotif stêm â thendar |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Gweithredwr | Caledonian Railway, London, Midland and Scottish Railway, Scottish Region of British Railways |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adeiladu
golyguBlwyddyn | Nifer | Rhifau CR | Adeiladwr | Rhif yr adeiladwr | Rhif LMS | Rhif BR | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1899 | 17 | 812–828 | Gwaith St. Rollox | Y054 | 17550–17566 | 57550–57566 | 828 mewn cadwraeth |
1899 | 10 | 829–838 | Cwmni Neilson | 5613–5622 | 17567–17576 | 57567–57576 | |
1900 | 10 | 839–848 | Cwmni Neilson | 5623–5632 | 17577–17586 | 57577–57586 | |
1900 | 15 | 849–863 | Cwmni Sharp Stewart | 4633–4647 | 17587–17601 | 57587–57601 | |
c.1900 | 15 | 864–878 | Cwmni Dübs | 3880–3894 | 17602–17616 | 57602–57616 | |
1899 | 12 | 282–293 | Gwaith St. Rollox | Y058 | 17617–17628 | 57617–57628 |
Blwyddyn | Nifer | Rhifau CR | Adeiladwr | Rhif yr adeiladwr | Rhif LMS | Rhif BR | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1908 | 8 | 652–659 | Gwaith St. Rollox | Y087-Y086 | 17629–17636 | 57629–57636 | |
1908 | 4 | 662–665 | Gwaith St. Rollox | Y086 | 17637–17640 | 57637–57640 | |
1909 | 4 | 325–328 | Gwaith St. Rollox | Y086 | 17641–17644 | 57641–57644 | |
1909 | 1 | 661 | Gwaith St. Rollox | Y086 | 17645 | 57645 |
Cafodd 17 ohonynt gyda breciau Westinghouse ar gyfer trenau i deithwyr, gan gynnwys rhif 828, yr unig un sy wedi goroesi. Aeth y 96 i gyd ymlaen at Reilffordd Llundain, y Canolbarth a’r Alban ym 1923, a 93 ohonynt ymlaen at Reilffordd Brydeinig ym 1948. Roedd 17567, 17598 a 17610 wedi cael eu sgrapio’n gynharach. Goroesodd ond un locomotif erbyn 1963.
Cadwraeth
golyguMae locomotif 828 yr unig un sy’n goroesi. Mae o’n gweithio ar Rheilffordd Strathspey|Reilfordd Strathspey]].
dosbarthiadau tebyg
golyguCynlluniwyd 3 dosbarth tebyg gan yr SNCB yn y Wlad Belg; dosbarthiadau 30, 32 a 32S, gyda gwahaniaethau bach o locomotifau’r Alban Roedd cyfanswm o 891 o locomotifau yno. Defnyddiasant ar drenau nwyddau a threnau i deithwyr. Gorffenasant eu gyrfeydd rhwng 1947 a 1959. Mae 2 yn goroesi mewn amgueddfeydd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Train: The Definitive Visual History. DK Press. t. 98.
- ↑ Gwefan Internationalsteam