Double Indemnity (ffilm)

ffilm ddrama sy'n 'ffilm du' gan Billy Wilder a gyhoeddwyd yn 1944

Film noir Americanaidd o 1944 yw Double Indemnity a gyfarwyddwyd gan Billy Wilder a chynhyrchwyd gan Buddy DeSylva a Joseph Sistrom. Ysgrifennodd Wilder a Raymond Chandler y sgript yn seiliedig ar y nofel fer Double Indemnity gan James M. Cain.

Double Indemnity
Llun teitl
Cyfarwyddwyd ganBilly Wilder
Cynhyrchwyd ganBuddy DeSylva
Joseph Sistrom
SgriptBilly Wilder
Raymond Chandler
Seiliwyd arDouble Indemnity gan James M. Cain
Adroddwyd ganFred MacMurray
Yn serennuFred MacMurray
Barbara Stanwyck
Edward G. Robinson
Cerddoriaeth ganMiklós Rózsa
SinematograffiJohn F. Seitz
Golygwyd ganDoane Harrison
Dosbarthwyd ganParamount Pictures (yn wreiddiol)
Universal Studios (heddiw)
Rhyddhawyd gan6 Medi 1944
Hyd y ffilm (amser)107 munud
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
Cyfalaf$980,000[1]
Gwerthiant tocynnau$5,000,000

Mae'r ffilm yn serennu Fred MacMurray fel dyn yswiriant, Barbara Stanwyck fel gwraig sydd am i'w gŵr farw, ac Edward G. Robinson fel aseswr ceisiadau. Mae'r term double indemnity, indemniad ddwbl yn Gymraeg, yn cyfeirio at gymal mewn polisi yswiriant bywyd sy'n dyblu gwerth y taliad os yw'r farwolaeth yn ddamweiniol.

Derbynodd glod gan feirniaid ffilm, a chafodd ei henwebu am saith o Wobrau'r Academi, er ni enillodd yr un. Ystyrir Double Indemnity yn glasur o sinema'r Unol Daleithiau, ac yn batrwm o film noir a osododd safonau i ffilmiau'r genre honno.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sikov, Ed (1998). On Sunset Boulevard: The Life and Times of Billy Wilder. Efrog Newydd: Hyperion. ISBN 0-7868-6194-0. t. 211