Downpatrick
Tref yn Iwerddon yw Downpatrick (Gwyddeleg: Dún Pádraig), sy'n dref sirol Swydd Down yn nhalaith Wlster, Gogledd Iwerddon. Ystyr yr enw yw "Dinas neu gaer (Sant) Padrig". Fe'i lleolir ger pen deheuol Loch Cuan/Strangford Lough tua 22 milltir i'r de o Belffast.
Ceir sawl adeilad hanesyddol yn y dref yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Down a Chastell Quoile. Yma hefyd mae Amgueddfa Swydd Down.