Loch Cuan
Cilfach fôr neu foryd sy'n ffurfio llyn sylweddol yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Loch Cuan (Gwyddeleg; Saesneg: Strangford Lough). Dyma'r gilfach fwyaf yn Iwerddon, yn gorchuddio 150 km2 (58 milltir sgwâr). Saif i'r de-ddwyrain o ddinas Belffast. Mae'r foryd wedi'i amgáu bron yn gyfan gwbl gan Orynys Ards; mae sianel gul hir yn ei hymyl de-ddwyreiniol yn ei chysylltu â Môr Iwerddon.
Math | cilfach |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Cyfesurynnau | 54.483°N 5.583°W |
Llednentydd | Afon Quoile, Afon Annacloy |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol |
Manylion | |