Manga o Japan (math Shonen) ydy Dragon Ball (ドラゴンボール Doragon Bōru) wedi'i sgwennu a'i ddylunio gan Akira Toriyama. Yn wreiddiol roedd yn gyfres (Weekly Shōnen Jump) a gafodd ei gyhoedd i rhwng 1984 a 1995, gyda 519 pennod mewn 42 tankōbon neu gyfrol gan Shueisha. Ysbydoliaeth i Dragon Ball oedd nofel glasurol Tseiniaidd o'r enw Y Daith i'r Gorllewin. Mae'r gyfres yma'n dilyn stori bachgen o'r enw Goku - o'i blentyndod i lasoed ac yn oedolyn ifanc. Yn y cyfamser mae o'n cael ei hyffordi mewn ymladd dwyreiniol ac yn archwilio'r byd mawr o'i gwmpas. Ei nod mewn bywyd ydy canfod 7 sffêr cyfrin, sef "Peli'r Ddraig". Os ydyn nhw i gyd yn cael eu casglu mae draig yn ymddangos ac mae'n rhoi dymuniad i geidwad y peli.

Mae manga Shōnen ar gyfer bechgyn dros 10 oed.