Drumconrath
Pentref hanesyddol yng ngogledd Sir Meath/an Mhí, Iwerddon, yw Drumconrath neu Drumcondra (yn hanesyddol Drumconra, o'r Wyddeleg Droim Conrach sef "Crib Conrach").[1] Mae'r plwyf ei hun yn ffinio â Sir Louth/Contae Lú ac mae hefyd yn agos i'r ffin rhwng Siroedd Monaghan/Contae Mhuineacháin a Cavan/Contae an Chabháin.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Meath |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.8503°N 6.6533°W |
Poblogaeth y plwyf yw o 2,967 tra bod i'r pentref ei hun 405 o bobl. Mae i'r plwyf arwynebedd o 7,566 acr (30.62 km2).
Bu anheddiad yma ers cyn 200CC gyda thystiolaeth o lwybrau hynafol a chylchgaerau (ringforts) yn Corstown a Drumsilagh. Digwyddodd Brwydr Ballyhoe (1539OC) rhwng y O'Neills â'r Saeson[2] gerllaw ac yn ôl llên gwerin taflwyd trysor i mewn i'r llyn yn ystod y frwydr a phan ddaw gwir Wyddel ar geffyl gwyn draw, fe blymir fewn i'r ellyn ac ailafael yn y trysor.
Rhyddhawyd ffilm newydd yn ddiweddar a ffilmwyd o gwmpas ardal Drumconrath. Enw'r ffilm yw "The Wild Goose Lodge" ac mae llawer o bobl leol yn actio ynddo. http://www.imdb.com/title/tt4985692/
Roedd Drumconrath yn llythrennol yr anheddle cyntaf Gaeleg "Tu Hwnt I'r Pâl" o adael y Pâl o Ardee/Baile Átha Fhirdhia. Roedd yn le elyniaethus i'r Saeson a adawodd ddiogelwch y Pâl ac fe fu nifer o frwydrau yn y pentref.
Mae olion mynachlog ar Church Hill yn edrych tros Llyn Braken, fe'i dinistrwyd gan Henry VIII a'i Ddeddf Diddymiad y Mynachlogydd. Yma, mae golygfa tuag at Mynyddoedd Mourne/na Beanna Boirche mewn un cyfeiriad a Mynyddoedd Dulyn y'w gwled yn glir yn y cyfeiriad arall.
Yn ystod gwrthryfel 1798, lladdwyd pump o blwyfion gan filisia Sir Louth/Contae Lú am wrthod caniatáu iddynt gael mynediad at yr Eglwys yn y pentref. Roedd gan yr ardal gefnogaeth cryf gan y Ribbonmen (rhagflaenydd yr Irish Republican Army) ac fe grogwyd chwech o ddynion o'r ardal am eu rhan yn y llosgi o'r Wildgoose Lodge Murders gerllaw.[3] Cadwodd y pentref at ei ddelfrydau Weriniaethol a bu llawer o ddynion lleol yn ymladd yn y Rhyfel y Tan â'r Rhyfel Cartref a'r Frigâd Kingscourt gerllaw, gyda theuluoedd yr Hickeys â'r Keenans yn chwarae rhannau amlwg yn yr ymladd. Yn wir, mae cofnod mai'r Frigâd a daniodd yr ergyd olaf yn Rhyfel y Tan ar 11:20 o Fehefin yr 11fed 1921, ugain munud ar ôl y cadoediad.[4]
Wedi ei leoli mewn cefn gwlad drymlinnol ac wedi ei amgylchynu gan lynnoedd bach, mae Drumconrath yn enwog am ei ardaloedd cerdded darluniadwy. Lleolir Llyn Braken, a llynnoedd llai Corstown a Balrath, hefyd ceir yr Afon Dee/An Níth yn yr ardal yma.
Mae'r pentref yn cynnig llawer o wasanaethau, gan gynnwys meddyg teulu, swyddfa bost, salon trin gwallt, fferyllfa, cigydd, ysgol gynradd, siop groser a G&B o fewn hen siop. Mae tair ystâd tai yn ffinio'r pentref, Parc De Valera ar y Ffordd i Nobber/Obair a Hillside View ar y ffordd i Carrickmacross/Carraig Mhachaire Rois a phedwar o dai ar ffordd Nobber/Obair i Drumconrath sydd nawr wedi ei ail-adeiladu yn dilyn amser o ddiffeithiwch. Adeiladwyd y blaenorol yn y 1970au, a'r mwayf diweddar yn ystod y cyfnod o ffyniant economig dweuthaf. Mae bywyd nos y pentref yn canoli ar dair tafarn y pentref, Y Thatch, Fay's a Muldoon's lle mae ystafell weithredol ar gyfer dathliadau a phartïon. Mae canolfan gymunedol fawr yn y pentref lle cynhelir bingo a gweithgareddau eraill sydd yn aml â phresenoldeb cyson, a chwrs 'pitch & putt' yn y cefn.
Mae dwy eglwys yn y pentref, Sant Pedr (Eglwys Anglicannaidd Iwerddon) yn awr ar gau, a Sant Pedr a Paul, Eglwys Gatholig. Mae rhai beddau o amgylch Sant Pedr sydd erbyn hyn wedi eu gadael yn wyllt, ond mae i'r pentref ddwy fynwent arall, un Babyddol ag un Brotestannaidd ar Ffordd Ardee/Baile Átha Fhirdhia.
Mae tîm "Drumconrath" o'r GAA Gaelic Athletic Association/ CLG Cumann Lúthchleas Gael yn y Wyddeleg, yn chwarae ar faes lleol y GAA/CLG ar Ffordd Navan/Uaimh. Oherwydd diffyg chwaraewyr yn yr oedrannau iau, mae'r tîm yn recriwtio chwaraewyr o blwyf cyfagos Meath-Hill i ffurfio tîm "Drumconrath-Meath-Hill"
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Placenames Database of Ireland (see archival records)
- ↑ reepages.genealogy.rootsweb.ancestry.com/~callahan/part3.htm
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-19. Cyrchwyd 2012-01-05. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ The Royal Irish Constabulary and the Black and Tans in County Louth 1919-1922 / Stephen O'Donnell