Mae drws yn ddarn o bren, metal neu arall sy'n agor neu'n cau mynediad i ystafell neu adeilad. Mae rhai drysau'n cael eu cloi gyda chlo neu gliced. Caiff drysau eu canfod mewn canolfuriau neu waliau, mewn ystafelloedd, cypyrddau, cerbydau neu gynwysyddion.

Drws yn Sălaj.

Defnyddir drysau er mwyn:

  • cadw eitemau, pobl ac anifeiliaid o fewn ystafell, cynhwysydd neu gerbyd
  • rheoli tymheredd gwagle (mewn ystafell yn y tŷ, neu mewn oergell)
  • cadarnhau preifatrwydd ac atal sŵn

Mathau o ddrysau golygu

  • Mae drws cylchdroi yn troi mewn cylch fel gall bobl deithio i mewn neu allan o adeilad, heb golli gwres gormodol ac i gadw tywydd garw allan. Defnyddir rhain gan amlaf lle mae llawer o draffig.
  • Mae drws ddall yn ddrws ffug sydd wir yn rhan o'r wal, addurniadol yw rhain.
  • Mae drws uwch-a-dros yn cael ei ddefnyddio yn aml mewn garej. Yn hytrach na dibynnu, mae'n rholio ar reiliau er mwyn iddo aros yn uwch na'r agorfa.
  • Mae drws tân yn ddrws nad yw'n gadael tân drwyddo. Gwneuthurir rhain o ddur fel rheol.
Chwiliwch am drws
yn Wiciadur.