Ocsideiddiad cyflym o nwyon hylosg a ddaw allan o danwydd yw tân. Yn cyd-fynd â thân fel arfer y mae fflam, gwres a golau. Gall tân sydd y tu hwnt i reolaeth fod yn beryglus iawn, ond o dan reolaeth bu tân yn un o'r adnoddau mwyaf defnyddiol a fu gan y ddynol ryw ar hyd yr oesoedd. Mae tân mynydd yn enghraifft o hyn, ble y llosgir yr hen dyfiant megis grug er mwyn ysgogi twf newydd.

Tân
Mathffenomen ffisegol, hylosgiad Edit this on Wikidata
Yn cynnwysfflam, mwg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn Gymraeg, rydym yn 'cynnau' tân. Gelwir twmpath o dân yn goelcerth.

Cemeg golygu

Mae tanau yn gyffredin ar y ddaear gan fod ei hatmosffêr yn cynnwys un o'r ocsidyddion mwyaf pwerus; ocsigen. Ocsigen yw'r elfen fwyaf electronegatif ar ôl fflworin ac felly mae ei electronau allanol yn isel iawn mewn egni. O ganlyniad mae ocsigen yn cael ei rydwytho gan bron pob elfen arall i ffurfio ocsidau gan ryddhau llawer o egni:

O2 + 4e- → 2O2-

Gweler hefyd adweithiau rhydocs.

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am tân
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.