Dryw Eurben
rhywogaeth o adar
Dryw Eurben | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Regulidae |
Genws: | Regulus |
Rhywogaeth: | R. regulus |
Enw deuenwol | |
Regulus regulus (Linnaeus, 1758) |
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Regulidae yw'r Dryw Eurben (Regulus regulus). Ef yw'r aderyn lleiaf sy'n nythu yn Ewrop, 8.5–9.5 cm o hyd ac yn pwyso cyn lleied â 5 g. Mae'n nythu ar hyd rhannau eang o Ewrop, Asia a Macaronesia.
Mae'n wyrdd golau ar y cefn ac yn wyn oddi tanodd. Yr unig aderyn tebyg yw'r Dryw Penfflamgoch, sydd a rhesen wen amlwg uwchben y llygad. Aderyn nodweddiadol o goedwigoedd conifferaidd yw'r Dryw Eurben. Yng ngogledd Ewrop ac Asia, gall fod yn aderyn mudol.
Mae'n aderyn pur gyffredin yng Nghymru, lle nad yw'n mudo yn y gaeaf.
-
Regulus regulus regulus
-
Regulus regulus azoricus
-
Regulus regulus inermis
-
Regulus regulus teneriffae