Un o ddwy ddugiaeth frenhinol yn Lloegr (y llall yw Dugiaeth Caerhirfryn) yw Dugiaeth Cernyw. Mae mab hynaf y brenin neu'r frenhines sy'n teyrnasu yn etifeddu meddiant o'r ddugiaeth a theitl Dug Cernyw adeg ei eni neu pan fydd ei riant yn llwyddo i'r orsedd.

Dugiaeth Cernyw
Enghraifft o'r canlynolDuchies in England Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1337 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadDug Cernyw Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://duchyofcornwall.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Wiliam Mounbatten-Windsor yw Dug Cernyw ar hyn o bryd.

Portffolio

golygu

Mae'r ddugiaeth yn berchen ar 531.3 km² (205.1 milltir sgwâr), nid yn unig yng Nghernyw, ond ledled Lloegr a Chymru, gan gynnwys ffermydd, eiddo preswyl a masnachol, yn ogystal â phortffolio buddsoddi. Mae'n gweithredu nifer o fentrau masnachol, gan gynnwys rhentu bythynnod gwyliau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi mentro i ddatblygu trefi newydd Poundbury yn Dorset a Nansledan yng Nghernyw.

Mae'r llywodraeth yn ystyried bod y ddugiaeth yn gorff y Goron ac felly wedi'i heithrio rhag talu treth gorfforaeth. Heriwyd y statws gan werinaethwyr;[1] ac, er 1993, mae Dug Cernyw wedi talu treth incwm o'i wirfodd ar incwm y ddugiaeth.

Llwynywermod

golygu

Mae'r hen dŷ fferm, Llwynywermod ger Llanymddyfri yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw. Roedd Charles Mountbatten-Windosr yn rhentu'r lle tan hâf 2023.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Public Accounts Committee: Written evidence from Republic"; www.parliament.uk; adalwyd 28 Medi 2021
  2. Sarah (2023-06-04). "King gives notice to quit his Welsh bolthole to the Duchy of Cornwall". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-14.

Dolenni allanol

golygu