Dull o nofio yw'r ddull glöyn byw, sy'n cael ei nofio ar y frest, gyda'r ddwy fraich yn symyd yn gydamserol. Datblygwyd y gic glöyn byw yn annibynnol, ac adnabyddir hwnnw fel y gic ddolffin yn ogystal. Tra gall dulliau eraill megis dull broga, front crawl, neu dull cefn ei nofio'n hawdd gan y rhanfwyaf o bobl, mae'r ddull glöyn byw angen techneg dda i fod yn ddichonadwy. Cysidrir hi gan nifer o ddysgwyr i fod y dull anoddaf iw feistro. Hon yw'r ddull mwyaf newydd i gael ei nofio mewn cystadleuaeth, nofwyd hi am y tro cyntaf tua 1934.

Dull glöyn byw

Cyflymder ac ergonomeg

golygu

Y ddull glöyn byw yw'r cyflymaf a gaiff ei reoli gan FINA. Mae pwynt cyflymaf y ddull glöyn byw yn gyflymach na'r front crawl, oherwydd tynnu/gwthio cydamserig y breichiau. Ond gan fod y cyflymder yn arafu gymaint yn y cyfnod adfer, mae hi o ben i ben ychydig yn arafach na front crawl. Mae gan nofwyr glöyn byw gyflymder uchaf o 3.168 cilomedr yr awr (1.98 MYA), ychydig yn arafach na steil rhydd sydd 3.472 cilomedr yr awr (2.17 MYA), ond yn gynt na dull cefn 2.944 cilomedr yr awr (1.84 MYA), adull broga 2.672 cilomedr yr awr (1.67 MYA).