Gloÿnnod byw
Llwydfelyn gwelw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera (rhan)
Teuluoedd

Uwchdeulu Hedyloidea
  Hedylidae
Uwchdeulu Hesperioidea:
  Hesperiidae
Uwchdeulu Papilionoidea:
  Papilionidae
  Pieridae
  Nymphalidae
  Lycaenidae
  Riodinidae

Am restr o löynod byw gweler yma. Am restr o dros 1,050 o erthyglau Cymraeg ar wyfynod a gloÿnnod byw, gweler yma.

Pryf gydag adenydd lliwgar sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glöyn byw (hefyd: pili-pala, iâr fach yr haf neu blyfyn bach yr haf). Wedi deor o'i ŵy mae glöyn byw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac yn morffio'n chwiler cyn dod allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau gydag adenydd.

Glöyn Cynffon Gwennol (Papilio machaon):
A- Adain flaen B- Teimlydd C- Llygad cyfansawdd D- Sugnydd E- Thoracs F- Coes G- Abdomen H- Adain ôl I- Cynffon

Mae'n perthyn i'r dosbarth Lepidoptera. Yn aml, mae ganddynt adenydd liiwgar, cymharol fawr. Yn y grŵp hwn ceir gwir loynnod byw (neu uwchdeulu / superfamily, sef Papilionoidea), y sgipwyr (uwchdeulu Hesperioidea) a'r gwyfyn-loynnod (uwchdeulu Hedyloidea). prin iawn y ceir ffosiliau, gan fod eu hadennydd mor denau a bregus, ond mae'r hyna'n mynd yn ôl i 40–50 miliwn o flynyddoedd CP.

Mae rhai gloÿnnod yn fudol h.y. yn teithio filoedd o filltiroedd dros yr haf; er enghraifft, Glöyn y llaethlys. Oherwydd eu gallu i forffio o un ffurf i ffurf arall, ac oherwydd harddwch eu lliw a'i ehediad, maent yn ddelwedd boblogaidd mewn llenyddiaeth. Ystyrir rhai ohonyn nhw'n bla gan eu bod yn bwyta llysiau ar gyfer y bwrdd bwyd, dro arall, mae'r lindys yn lladd rhywogaethau sy'n blâu.

Mewn ymchwiliad gan NERC (Natural Environment Research Council) yn 2004 datgelwyd fod gostyngiad o 71% wedi bod yn niferoedd y gloÿnnod byw yng ngwledydd Prydain rhwng 1983 a 2003.[1]

Geirdarddiad

golygu

Cofnodwyd y gair yn gyntaf yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems Thesaurus Linguae Latinae Cambrobritannicae (1604-7). Y gair cyn hynny oedd ‘glöyn Duw’, fel a geir yng ngwaith Dafydd ap Gwilym yn y 14eg ganrif.

Rhywogaethau yng Nghymru

golygu
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru o Fritheg y Gors.

Un o brif diriogaethau'r glöyn byw yng Ngogledd Cymru ydy Craig Euarth: rhwng Craig-adwy-wynt a Phwllglas 4 a hanner cilometr i'r de o Ruthun (Rhif cyfeirnod map OS Map: SS 122 542) lle gwelir 32 allan o'r 34 mathau sydd yng ngogledd Cymru.[2] Tiriogaeth pwysig arall yw 'Caeau Ffos Fach' ger Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.

Mae rhywogaethau'r glöyn byw a'r gwyfyn a welir yng Nghymru yn cynnwys:

  1. Argws brown (Aricia agestis: Brown Argus)
  2. Britheg arian (Argynnis paphia: Silver-washed Fritillary)
  3. Britheg frown (Argynnis adippe: High brown fritillary)
  4. Britheg y gors (Euphydryas aurinia aurinia: Marsh fritillary)
  5. Britheg werdd (Argynnis aglaja: Dark Green Fritillary)
  6. Britheg y gors (Euphydryas aurinia: Marsh fritillary)
  7. Brithribin du (Satyrium pruni: Black Hairstreak)
  8. Brithribin brown (Thecla betulae: Brown hairstreak)
  9. Brithribin gwyn (Hairstreak) ???
  10. Brithribin gwyrdd (Callophrys rubi: Green hairstreak)
  11. Britheg berlog (Boloria euphrosyne: Pearl-bordered Fritillary)
  12. Britheg berlog fach (Boloria selene: Small Pearl-bordered Fritillary)
  13. Bwrned chwe smotyn (Zygaena filipendulae: Six-spot burnet)
  14. Copor bach (Lycaena phlaeas: Small copper)
  15. Glesyn cyffredin (Polyommatus icarus: Common Blue)
  16. Glesyn serennog (Plebejus argus: Silver-studded blue)
  17. Glesyn y celyn (Celastrina argiolus: Holly Blue)
  18. Gweirlöyn brych (Pararge aegeria: Speckled Wood)
  19. Gweirlöyn mawr y waun (Coenonympha tullia: Common Ringlet)
  20. Gweirlöyn y cloddiau (Wall brown: Lasiommata megera)
  21. Gweirlöyn y ddôl (Maniola jurtina: Meadow brown)
  22. Gwibiwr bach (Thymelicus sylvestris: Small skipper)
  23. Gwibiwr brith (Pyrgus malvae: Grizzled Skipper)
  24. Gwibiwr llwyd (Erynnis tages: Dingy skipper)
  25. Gwyn blaen oren (Anthocharis cardamines)
  26. Gwyn bach (Pieris rapae: Small White)
  27. Glöyn mawr gwyn (Pieris brassicae: Large White)
  28. Gwyn gwythiennau gwyrddion (Pieris napi: Green-veined white)
  29. Mantell dramor (Vanessa cardui: Painted Lady)
  30. Mantell garpiog (Polygonia c-album: Anglewing)
  31. Mantell goch (Vanessa atalanta: Red Admiral)
  32. Mantell paun (Inachis io: Peacock)
  33. Melyn y rhafnwydd (Gonepteryx rhamni: Common brimstone)
  34. Trilliw bach (Aglais urticae: Small Tortoiseshell)

Cylchred bywyd

golygu

Oriel luniau

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Natural Environment Research Council, 2004.
  2. Gwefan Butterfly Conservation; adalwyd 27 Awst 2012
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am glöyn byw
yn Wiciadur.