Dunnes Stores
Cadwyn manwerthu o Iwerddon yw Dunnes Stores, a elwir hefyd yn Dunnes. Mae'r gadwyn yn bennaf yn gwerthu bwyd, dillad a nwyddau i'r cartref.
Math | busnes |
---|---|
Diwydiant | manwerthu |
Sefydlwyd | 1944 |
Sefydlydd | Ben Dunne |
Pencadlys | |
Gwefan | https://www.dunnesstores.com/ |
Yn ogystal â de Iwerddon, mae gan y cwmni hefyd siopau yng ngogledd Iwerddon, Lloegr, yr Alban a Sbaen.
Hanes
golyguAr 31 Mawrth, 1944, defnyddiodd Ben Dunne ei gynilion i agor y Dunnes Stores cyntaf erioed ar Patrick Street yn Cork.[1]
Streic Nwyddau De Affrica
golyguYn ystod cyfnod apartheid, bu aeth gweithwyr cangen Henry Street, Dulyn, a oedd yn aelodau o'r undeb IDATU (Mantate bellach) ar streic a phicedu'r siop mewn protest yn erbyn y ffaith bod y cwmni'n gwerthu cynnyrch o Dde Affrica. Arhosodd 11 o ferched ar streic am ddwy flynedd a naw mis. Daeth y streic i ben ym mis Ebrill 1987, pan osododd Iwerddon waharddiad ar fewnforio o Dde Affrica - y wlad gyntaf i wneud hynny.[2]
Sgandal cig ceffyl 2013
golyguRoedd y cwmni ymysg y rhai a effeithwyd gan sgandal cig ceffyl 2013.