Dwnsiwn y Dis
Mae Dwnsiwn y Dis (Saesneg: Dicey Dungeons) yn gêm gyfrifiadur a ddatblygwyd gan y cynlluniwr Gwyddelig, Terry Cavanagh.
Rhyddhawyd Dwnsiwn y Dis i Microsoft Windows, MacOS, a Linux, ym mis Awst 2019, i Nintendo Switch ym mis Rhagfyr 2020, i Xbox One a Xbox Series X/S ym mis Tachwedd 2021, i iOS ac Android ym mis Gorffennaf 2022, ac i PlayStation 4 a PlayStation 5 ym mis Chwefror 2023.
Dwnsiwn y Dis | |
---|---|
Dylunio | Terry Cavanagh |
Rhaglennu | Justo Delgado Baudi |
Celf | Marlowe Dobbe |
Ysgrifennu | Holly Gramazio |
Sain | Chipzel |
Marchnata | Dana Trebella |
Dyfeisiau | |
Dyddiad Rhyddhau | 13 Awst 2019 |
Chwarae
golyguMae Dwnsiwn y Dis yn cyfuno cynnwys o gemau roguelike gyda gemau adeiladu-dec.
Mae'r Foneddiges Lwc yn troi'r chwaraewr yn ddis. Rhaid iddyn nhw frwydro trwy ddwnsiwn gan ddefnyddio dis ac amryfal o offer i ennill eu rhyddid.
Cymraeg
golyguYm mis Medi 2020, cafodd y gêm ei chyfieithu i'r Cymraeg gan Morgan Roberts. Ar yr un amser, cafodd y gêm gyfieithiad Japaneg gyda chynnwys newydd.