Dwyrain Jawa
Un o daleithiau Indonesia yw Dwyrain Jawa (Indoneseg: Jawa Timur). Mae'n ffurfio rhan ddwyreiniol ynys Jawa ac yn cynnwys ynys lai Madura yn y gogledd, ac roedd y boblogaeth yn 35,839,000 yn 2000. Y brifddinas yw Surabaya.
Arwyddair | Jer Basuki Mawa Béya |
---|---|
Math | talaith Indonesia |
Prifddinas | Surabaya |
Poblogaeth | 41,144,067 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Adhy Karyono |
Gefeilldref/i | Shanghai, Osaka |
Daearyddiaeth | |
Sir | Indonesia |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 48,033 km² |
Uwch y môr | 1,554 metr |
Gerllaw | Cefnfor India, Y Môr Java, Bali Strait |
Yn ffinio gyda | Canolbarth Jawa, Bali |
Cyfesurynnau | 7.7°S 112.5°E |
Cod post | 60111 - 69493 |
ID-JI | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of East Java |
Pennaeth y Llywodraeth | Adhy Karyono |
Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Canolbarth Jawa yn y gorllewin, gydag ynys Bali ar draws y culfor i'r dwyrain. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa ac yn y de ar Gefnfor India. Ceir nifer o losgfynyddoedd yma, yn cynnwys Mynydd Bromo, sy'n atyniad pwysig i dwristiaid, a Mynydd Semeru. Mae'r tir yn ffrwythlon, a thyfir reis ar draws ardal helaeth o'r dalaith, gyda siwgwr hefyd yn bwysig. Mae dinasoedd y dalaith yn cynnwys Malang, Kediri a Banyuwangi.