Dydd Gwener y Groglith
Gŵyl grefyddol Gristnogol sy'n coffáu croeshoeliad Iesu Grist a'i farwolaeth ar Fryn Calfaria (Golgotha yn yr iaith Hebraeg) ydy Dydd Gwener y Groglith. Daw Dydd Gwener y Groglith ar y dydd Gwener cyn Sul y Pasg, ac weithiau mae'n cydfynd â'r Pasg Iddewig. Gelwir y dydd Iau cynt yn Ddiwrnod Cablyd.
Mae'r dyddiad yn seiliedig ar yr ysgrythurau sy'n honi i'r croehoelio ddigwydd ar ddydd Gwener.[1] Credir i hyn ddigwydd yn 33 OC, er i Isaac Newton nodi mai 34 OC oedd y dyddiad cywir. Mae'r dryswch yn codi oherwydd y gwahaniaeth rhwng Calendr Iŵl a sefydlwyd gan Iwl Cesar a'r calendr Cristnogol a siap y lloer.[2] Defnyddir trydydd dull, sy'n cwbwl annibynnol o'r gweddill, sy'n seiliedig ar gyfeiriad Pedr o "leuad waed" (Actau 2:20), sy'n awgrymu dydd Gwener 3 Ebrill 33 OC.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "John 19". Wesley's Notes for the Bible. Biblecommenter.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-10. Cyrchwyd 2010-04-02.
19:42 Because of the preparation - That is, they chose the rather to lay him in that sepulchre which was nigh, because it was the day before the Sabbath, which also was drawing to an end, so that they had no time to carry him far.
- ↑ *Isaac Newton, 1733, Of the Times of the Birth and Passion of Christ, yn "Observations upon the Prophecies of Daniel and the Apocalypse of St. John" (Llundain: J. Darby and T. Browne).
- Bradley Schaefer, 1990, Lunar Visibility and the Crucifixion. Cylchgrawn y Gymdeithas Frenhinol dros Seryddiaeth; rhif 31.
- Seryddwyr yn trafod dyddiad y croeshoeliad. Archifwyd 2011-04-25 yn y Peiriant Wayback
- Seryddwyr yn trafod dyddiad marw Crist.
- John Pratt Newton's Date For The Crucifixion "Quarterly Journal of Royal Astronomical Society", Medi 1991.
- Newton's Date For The Crucifixion
- ↑ *Humphreys, Colin J., and W. G. Waddington, "Dating the Crucifixion", Nature 306 (Rhagfyr 22/29, 1983), tud. 743-46. Dyddio'r Croeshelio Nature.com
- Colin J. Humphreys and W. G. Waddington, The Date of the Crucifixion Journal of the American Scientific Affiliation 37 (Mawrth 1985) The Date of the Crucifixion Archifwyd 2010-04-08 yn y Peiriant Wayback ASA3.org