Dydd Iau Cablyd
Y dydd Iau cyn Dydd Gwener y Groglith yn ystod y Pasg yw Dydd Iau Cablyd (neu Difiau Cablyd) (Saesneg: Maundy Thursday neu Shear Thursday). O'r gair Hen Wyddeleg caplat, a hwnnw yn ei dro yn fenthyciad dysgedig cynnar o'r gair Lladin capillatio,[1] y daw'r gair cablyd, a'i ystyr oedd "torri gwallt neu eillio pen" gan yr arferid eillio pennau'r myneich a golchi eu traed ar y dydd hwn, fel rheol fin nos. Arferid gwneud hyn i gofio am y Swper Olaf a'r weithred o olchi traed disgyblion Iesu o Nasareth.
Enghraifft o'r canlynol | dydd gŵyl Cristnogol |
---|---|
Lliw/iau | gwyn |
Rhan o | Eastern Orthodox liturgical calendar, Holy Week, Paschal Triduum |
Rhagflaenwyd gan | Holy Wednesday |
Olynwyd gan | Dydd Gwener y Groglith |
Prif bwnc | swper Olaf |
Enw brodorol | Dies Cenae Domini |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymddangosodd y term "Nos Ieu Cablut" yn gyntaf mewn ysgrifen tua 1400.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cablyd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.