Dydd Mawrth Ynyd
Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod o flaen Dydd Mercher y Lludw, sef y diwrnod olaf cyn dechrau gŵyl y Grawys yn y calendr Cristnogol. Cyfeirir ato ar lafar yn gyffredinol fel Dydd Mawrth Crempog am ei fod yn arfer bwyta crempogau; ceir dywediad Cymraeg traddodiadol am hyn, sef "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud".[1] Daw'r gair Cymraeg 'ynyd' o'r gair Lladin initium ('cychwyn'), cyfeiriad at agosáu'r Grawys.[2] Fe'i gelwir yn Mardi Gras mewn llawer o wledydd Catholig, sef "Dydd Mawrth Tew", gan mai'r arfer oedd bwyta pob math o fwydydd a danteithion cyn dechrau ar ymprydio, a oedd yn rhan o'r Grawys, y deugain diwrnod sy'n rhagflaenu'r Pasg.
Arferion
golyguYng Nghymru mae'n hen ŵyl: roedd yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol pan oedd Cymru'n wlad babyddol. Arferid bwyta'r olaf o stôr menyn a saim yn y tŷ trwy wneud crempogau.[3] Roedd y tlodion yn arfer 'blawta' a 'blonega', sef hel blawd a bloneg i wneud crempogau. Mewn rhannau o'r wlad hyd at ddechrau'r 20g byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ i fofyn crempogau. Cenid pennill wrth y drws. Dyma fersiwn o ardal Arfon, Gwynedd:
- Os gwelwch yn dda ga'i grempog,
- Mae 'ngheg i'n sych am grempog,
- Os nad oes menyn yn y tŷ
- Ga'i lwyad fawr o driog.
- Mae Mam yn rhy dlawd i brynu blawd
- A 'Nad yn rhy wael i weithio.[4]
Roedd arferion eraill ar Ddydd Mawrth Ynyd yn cynnwys ymladd ceiliogod a chwarae math o bêl-droed gyntefig. Roedd yr olaf yn boblogaidd yn Ne Cymru, er enghraifft yn ardal Arberth, Sir Benfro. Byddai merched yn dod â basgedi llawn o grempogau i roi i'r chwaraewyr niferus. Gêm wyllt heb fawr o reolau ydoedd ac yn fwy o reiat na chystadleuaeth oedd hon, a byddai pobl barchus yn cau eu ffenestri rhag ofn iddynt gael eu torri.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol I, tud. 1120.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol IV, tud. 3819.
- ↑ Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs (Caerdydd, 1959), tud. 72.
- ↑ Welsh Folk Customs, tud. 74.
- ↑ Welsh Folk Customs, tud. 73.