Dyddiadur David Tegid Jones, Goppa Trawsfynydd
Ffynhonnell y ddogfen wreiddiol
golyguLlawysgrif gwreiddiol yn Archifdy Prifysgol Bangor gyda holl bapurau'r fferm yn sgil yr anghydfod isod gan Mrs Jones, Goppa, Trawsfynydd
Cynnwys y dyddiadur
golyguMae'r holl gofnodion a godwyd hyd yma i'w gweld yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur[1]
Effeithiodd sefydlu Llyn Trawsfynydd yn ddirfawr ar fenter fferm y dyddiadurwr yn ôl yr hanesydd lleol Keith O'Brien:
Y Goppa - bu i lawer o dir gorau’r Goppa ddiflannu o dan y don ac oherwydd hyn bu cryn frwydr rhwng perchennog y fferm, sef David Tegid Jones, neu “Jones Y Goppa” yn ôl ei lysenw, a’r cwmni cynhyrchu trydan, y “North Wales Power Company”. Colli’r frwydr fu hanes Jones Y Goppa, a bu iddo farw ym 1926. O ganlyniad i greu’r llyn bu i feibion Jones chwerwi gydag amaethyddiaeth yn yr ardal ac ymfudasant i Awstralia, ymhle mae’n debyg cawsant well gwobr am ei llafur ar y tir.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ HANES LLYN TRAWSFYNYDD gan Y Nafi Bach (Keith T. O’Brien)Traethawd Buddugol Eisteddfod Llaw’r Plwy’ a Phenstryd 2005