Dyffryn Grose

dyffryn yn Ne Cymru Newydd, Awstralia

Mae Dyffryn Grose yn rhan o Barc Genedlaethol y Mynyddoedd Gleision ac yn cynnwys y Fforest Blue Gum yn Ne Cymru Newydd, Awstralia. Mae'r dyffryn wedi osgoi datblygiad i raddau helaeth oherwydd y clogwynau anferth ar ei ddwy ochr[1]

Dyffryn Grose
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Cymru Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Cyfesurynnau33.6°S 150.4°E Edit this on Wikidata
Map
Dyffryn Grose

Daeth pobl frodorol i'r dyffryn tua 22,000 mlynedd yn ôl, yn benodol y gymuned Darak, ac efallai mae'r gymuned Gandagara wedi byw yn y rhan deheuol[2].

Diwydiant golygu

Torrwyd coed ar waelod y dyffryn ar dechrau'r pedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd pyllau glo yng Nghors Asgard o 1891 i 1908, ac yn Blair Athol rhwng 1920 a 1924. Agorwyd Glofa Canyon yn y 1920au; caewyd y lofa ym 1997, ond rhyddheir gwastraff o'r glo, haearn a sinc i'r afon hyd at heddiw[2][3]

Twristiaeth golygu

Gellir gweld y Dyffryn o dref Katoomba, a denir miloedd o dwristiaid i'r ardal pob blwyddyn. Mae'r Mynyddoedd Gleision yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO[4].

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan bushwalking NSW
  2. 2.0 2.1 "Asesiad yr Adran Amgylchedd a Newid Hinsawdd NSW" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-12-02.
  3. Gwefan rhaglen deledu Catalyst, ABC
  4. Gwefan UNESCO