Saif Katoomba yn Ne Cymru Newydd, Awstralia. Tarddiad ei henw yw'r gair brodorol 'Kedumba', sy'n golygu 'dyfroedd sgleiniog disgynnol'. Mae'r dref yn yr un fwyaf yn Ninas y Mynyddoedd Gleision[1]. Gwelir o Katoomba tair craig, Y Tair Chwaer, yn sefyll ar ben clogwyn yn edrych dros Ddyffryn Grose.

Katoomba
Mathtref, maestref Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,964, 8,268 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Uwch y môr991 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMedlow Bath, Leura, Blue Mountains National Park, Megalong Valley Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.715°S 150.312°E Edit this on Wikidata
Cod post2780 Edit this on Wikidata
Map

Mae gwasanaeth trên (Lein y Mynyddoedd Gleision) rhwng Sydney a Katoomba. Mae rhai o'r trenau'n mynd ymlaen i Bathurst[2].

Agorwyd pwll glo Katoomba yn 1879, gan ddefnyddio car cabl i godi glo i fyny'r clogwyn o'r dyffryn. Mae car cabl ar yr un safle'n cario twristiad hyd at heddiw.[1]

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu

Gwefan Katoomba

  Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.